Mae’r cyhoeddiad ynghylch pwy fydd y 23 chwaraewr yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc wedi cael ei ohirio tan 2.30 brynhawn dydd Mawrth.

Roedd disgwyl i’r rheolwr Chris Coleman gyhoeddi’r garfan yn ystod y bore.

Bydd y garfan derfynol o 23 yn ymarfer gyda’i gilydd o flaen y wasg fore Mercher.

Anafiadau

Mae amheuon o hyd am ffitrwydd Joe Ledley, a’r awgrym yw na fydd e’n holliach tan y gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Rwsia ar Fehefin 20.

Gwnaeth y chwaraewr canol cae, sydd wedi ennill 62 o gapiau, dorri ei goes tra’n chwarae i Crystal Palace ar Fai 7.

Ond fe gymerodd e ran yn y daith baratoadol i Bortiwgal yr wythnos diwethaf.

Pe bai Ledley yn cael mynd i Ffrainc, mae disgwyl i’r lle olaf ymhlith y chwaraewyr canol cae fynd i un ai David Vaughan, Emyr Huws neu David Edwards.

Ymhlith yr amddiffynwyr, mae Adam Henley allan o’r garfan ac fe allai Paul Dummett neu Adam Matthews gymryd ei le.

Mae’r ymosodwr Tom Bradshaw a’r chwaraewr canol cae Tom Lawrence eisoes wedi datgan na fyddan nhw’n mynd i Ffrainc oherwydd anafiadau.

Sylwebydd S4C Nic Parry yn trafod y garfan â golwg360 heddiw:

Newyddion da

Ond mae newyddion gwell o ran ffitrwydd y golwr Danny Ward a’r seren Gareth Bale, sy’n disgwyl bod yn holliach cyn dechrau’r gystadleuaeth.

Fe fydd y newyddion am Bale yn hwb i Coleman, ar ôl i amheuon godi yn dilyn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Real Madrid ac Atletico Madrid ym Milan ddydd Sadwrn.

Roedd y blinder yng nghoesau Bale yn amlwg yn ystod amser ychwanegol, ond fe lwyddodd i sgorio yn ystod y ciciau o’r smotyn i helpu ei dîm i sicrhau’r fuddugoliaeth dros eu cymdogion.

Dywedodd y capten Ashley Williams am Bale: “Mae e’n chwaraewr sydd wedi bod yno ar yr adeg iawn pan fu ei angen e arnon ni.

“Bydd ei angen e arnon ni yn ystod y gystadleuaeth hon yn sicr, mae hi ar y llwyfan rhyngwladol a bydd pawb yn gwylio.

“Mae e’n chwaraewr o’r radd flaenaf ac mae e’n gwybod sut i ymdopi â hynny.

“Bydd ei brofiad yn werthfawr yn yr ystafell newid pan ddaw hi iddi.

“Fe yw’r mwyaf profiadol ohonon ni i gyd o ran achlysuron mawr, a dydy e ddim fel arfer yn ein siomi ni.”

Mae Coleman wedi dweud ei fod yn “gobeithio ac yn gweddïo am newyddion da am Ledley.

Bydd angen i Coleman ddewis ei 23 allan o’r 27 chwaraewr canlynol:

Wayne Hennessey, Danny Ward, Owain Fon Williams

Ben Davies, Neil Taylor, Chris Gunter, Ashley Williams, James Chester, Ashley Richards, Paul Dummett, Adam Matthews, James Collins

Aaron Ramsey, Joe Ledley, David Vaughan, Joe Allen, David Cotterill, Jonathan Williams, George Williams, Andy King, Emyr Huws, David Edwards

Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Simon Church, Wes Burns