Andy King (llun: Nick Potts/PA)
Gall Cymru efelychu camp Caerlŷr ym mhencampwriaethau Ewrop y mis nesaf, yn ôl Andy King, chwaraewr canol cae y ddau dîm.

Mae’r ods yn 80-1 yn erbyn i Gymru ennill y Bencampwriaeth, o gymharu â’r ods o 5,000-1 ar ddechrau’r tymor yn erbyn i Gaerlŷr gyrraedd brig yr uwch gynghrair.

“Mae’n rhaid i ni ennill chwech neu saith gêm o gymharu â 38,” meddai King, wrth gymharu’r her sy’n wynebu Cymru â llwyddiant rhyfeddol Caerlŷr.

“Rydym yn grŵp dawnus a dw i’n credu bod gynnon ni’r chwaraewr gorau yn y twrnament.

“Mae’n debyg mai Gareth [Bale] yw’r chwaraewr gorau yn y twrnment ym marn llawer o bobl, felly pam na allwn ni fynd yno a gwneud rhywbeth?

“Rydym yn hyderus y gallwn wneud hynny..”

Bythgofiadwy

Bydd gêm gyntaf Cymru yn Ffrainc yn erbyn Slofacia yn Bordeaux ar 11 Mehefin cyn wynebu Lloegr yn Lens bum niwrnod wedyn. Bydd gêm olaf Cymru yn y grŵp yn erbyn Rwsia yn Toulouse ar 20 Mehefin.

Dywed King, a gafodd ei eni yn Barnstaple ac a gymhwysodd i chwarae i Gymru gan fod ei daid yn dod o Wrecsam, ei fod yn hapus gyda threfn y gemau.

“Dw i ddim yn meddwl y bydden ni eisiau chwarae Lloegr yn gyntaf,” meddai .

“Fe allwn ni ganolbwyntio ar Slofacia cyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr, ac fe allwn weld lle byddwn ni cyn wynebu Rwsia.

“Fel arfer mae un fuddugoliaeth a gêm gyfartal yn ddigon i’ch cael chi drwodd.

“Mae wedi bod yn dymor bythgofiadwy i mi, ond gofynnwch imi eto mewn chwe wythnos a dw i’n gobeithio y bydda’ i’n rhoi ateb gwell fyth ichi.”