Mae chwech o chwaraewyr newydd wedi’u henwi yng ngharfan Seland Newydd i herio Cymru ym mis Mehefin.
Byddan nhw’n herio’i gilydd mewn cyfres o dair gêm yn Auckland (Mehefin 11), Wellington (Mehefin 18) a Dunedin (Mehefin 25).
Mae’r cyn-gapten Richie McCaw, Keven Mealamu a Tony Woodcock wedi ymddeol, ac mae Dan Carter, Conrad Smith a Ma’a Nonu wedi dod â’u gyrfaoedd rhyngwladol i ben dros dro ar ôl symud i Ffrainc.
Mae’r chwaraewr ail reng Sam Whitelock allan o’r gyfres, ac mae Tom Franklin yn dod i mewn yn ei le.
Mae’r mewnwr Tawera Kerr-Barlow wedi torri ei law ac mae TJ Perenara yn y garfan yn ei le yntau.
Mae’r blaenwyr Elliot Dixon, Liam Squire, Ardie Savea, Ofa Tu’ungafasi a’r olwyr Damian McKenzie a Seta Tamanivalu wedi’u cynnwys.
Carfan Seland Newydd:
Olwyr: Ben Smith, Israel Dagg, Damian McKenzie, Waisake Naholo, Julian Savea, Malakai Fekitoa, Seta Tamanivalu, Charlie Ngatai, Ryan Crotty, Beuaden Barrett, Aaron Cruden, Lima Sopoaga, Aaron Smith, Tawera Kerr-Barlow, TJ Perenara
Blaenwyr: Kieran Read (capten), Sam Cane, Ardie Savea, Jerome Kaino, Elliot Dixon#, Liam Squire#, Sam Whitelock, Brodie Retallick, Patrick Tuipulotu, Luke Romano, Tom Franklin, Ofa Tu’ungafasi, Charlie Faumuina, Owen Franks, Wyatt Crockett, Joe Moody, Dane Coles, Codie Taylor, Nathan Harris