Mae’r Urdd wedi lansio ymgyrch i ‘ddeall mwy am fywydau’ ei chynulleidfa – Sgwrs yr Urdd 2022, ar drothwy pen-blwydd y sefydliad yn 100 oed ymhen chwe blynedd.

Wrth lansio’r ymgyrch, dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Sioned Hughes, sydd wedi bod yn y swydd am bum mis erbyn hyn, ei bod am “sicrhau bod yr Urdd yn parhau’n gyfredol ac yn ddeinameg.”

Dywedodd wrth golwg360 y gallai’r ymgyrch olygu newid cyfeiriad o bosib hefyd.

“O ni yn teimlo bod o’n gyfle i fi fedru deall yn iawn be mae pobol isio – ein haelodau a phobol sy’n cefnogi ni – ac wedyn, cael yr hyder i newid cyfeiriad falla o ran yn ddigidol a gwneud yn siŵr ein bod ni’n gyfredol ar gyfer pobol ifanc Cymru,” meddai.

Dechrau casglu barn

Bydd ‘Sgwrs Urdd 2022’ yn dechrau’r wythnos hon gan gasglu barn plant a phobol ifanc.

Ar ôl casglu barn y bobol ifanc, bydd athrawon a gwirfoddolwyr yn cael dweud eu dweud am yr Urdd, a hynny rhwng mis Medi a Rhagfyr eleni.

Bydd rhieni yn cael lleisio eu barn rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2017, gyda’r canfyddiadau yn cael eu defnyddio tuag at ddathlu’r canmlwyddiant yn 2022.

I gasglu barn pobol ifanc, bydd yr Urdd yn teithio o amgylch Cymru dros yr haf ac mae wyth sesiwn ‘cyfranogi’ wedi’u trefnu, yn ogystal ag holiaduron ar wefan yr Urdd.