Mae enillwyr prif wobrau celf Eisteddfod Sir y Fflint – yr Ysgoloriaeth Gelf a’r Fedal Gelf – wedi’u cyhoeddi.
Lea Sautin, yn wreiddiol o Lanbedrog, Pen Llŷn, sydd wedi ennill yr ysgoloriaeth, gwerth £2,000, eleni am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18 a 25 oed.
Enillydd y Fedal Gelf oedd Ffion Eleri o Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn, am y darn unigol gorau o’r holl gystadlaethau dan 19 oed yn yr Adran Celf, Dylunio a Thechnoleg.
Graddiodd Lea o adran beintio a phrintio Ysgol Gelf Glasgow ym Mehefin 2015, ac wedi pedair blynedd yn astudio yn yr Alban a chyfnod o brofiad gwaith mewn amgueddfa gelf gyfoes yn Ffrainc, mae bellach wedi dychwelyd i Gymru.
Mabinogi yn ysbrydoliaeth
“Wrth wraidd fy ngwaith mae datblygiad y traddodiad chwedlonol yng Nghymru a’r ffordd mae’n fythol newid,” meddai.
“Cafodd chwedlau fel y Mabinogi eu perfformio a’u hadrodd ar lafar am ganrifoedd cyn cael eu cofnodi ar bapur ac yna eu dehongli ymhellach drwy addasiadau, cyfieithiadau a darluniau.
“Wedi fy magu yn rhugl dairieithog mae gen i ddiddordeb mawr mewn datblygiadau a gwyrdroadau wrth symud o un iaith neu gyfrwng i’r llall.”
Mae Lea Sautin, sydd wedi ennill gwobr goffa Euan Stewart gan Ysgol Gelf Glasgow a Gwobr Goffa Eirian Llwyd, wedi dangos ei arddangos ei gwaith yn Llundain, Glasgow, Paris, Caernarfon, Sir Efrog a Chaerdydd.
“Mi oedd y gwaith yn wefreiddiol a’r broses o greu wedi ei ysbrydoli gan hen hen straeon a sut maent yn newid ychydig bach bob tro maent yn cael eu hadrodd ar hyd y blynyddoedd,” meddai Gwenno Jones, un o feirniaid y gystadleuaeth.
Hanes Cymru tu ôl y Fedal Gelf
Mae enillydd y Fedal Gelf, Ffion Eleri, 18, yn ddisgybl Lefel A yn Ysgol y Creuddyn, ac mae wedi cael ysbrydoliaeth gan artistiaid fel Cefyn Burgess, Meistr y Ddefod yn seremoni’r Fedal Gelf heddiw.
“Rwy’n hoffi defnyddio fy nghamera i gasglu lluniau gwreiddiol cyn mynd ati i greu gwaith celf,” meddai.
“Ar gyfer y gwaith arbennig yma, cefais fy ysbrydoli wrth astudio Hanes Cymru a hanes chwarelwyr a glowyr ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf.”