Caryl Parry Jones
Fel Llywydd y Dydd ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl, neges Caryl Parry Jones ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint oedd i bobol peidio ag ‘anwybyddu’r’ sir ar ôl i wythnos yr Eisteddfod ddod i ben.
“Dwi’n mor falch bod y golau’n disgleirio ar Sir y Fflint yr wythnos yma, achos mae hi’n sir sydd yn cael ei hanwybyddu,” meddai’r gantores, sy’n cyfri’i hun fel ‘merch o Sir y Fflint, o fy nghorryn i’m sawdl’.
“Roedd ‘na adeg o fy mywyd i pan oeddem ni, ogledd-ddwyreinwyr, ddim hyd yn oed yn cael ein hystyried yn Gymry Cymraeg go iawn, ond diolch byth, mae’r dyddiau yna wedi dod i ben.
“Ond mae hi’n sir hawdd iawn ei hanwybyddu oherwydd ei safle daearyddol ar y ffin, ar ysgwydd bellaf Cymru.”
‘Arlliw nawddoglyd’
Dywedodd fod “anwybodaeth” ymhlith y Cymry am y sir yn ei “synnu”, a bod diffyg darlledu gan y cyfryngau yn y sir.
“Pa mor aml ‘da ni’n clywed acen Sir Fflint yn y cyfryngau? Pa mor aml ‘da ni’n clywed acen Sir Fflint mewn dramâu, mewn dogfennau neu hyd yn oed ar y newyddion?
“A phan mae’r acen yn cael ei chlywed, mae’n cael ei thrin gydag arlliw dipyn bach yn nawddoglyd.
“Ydan, ‘da ni’n agos at y ffin ac wrth gwrs mae hynny’n cynnig ei sialensiau, ond mae agwedd at y Gymraeg (yn y sir) yn iach ac yn frwd.”