Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud fod paratoadau Caerdydd ar gyfer cynnal ffeinal Cynghrair y Pencampwyr ymhen blwyddyn yn mynd yn dda.
Ac yn ôl Jonathan Ford, mae’r fraint o gael croesawu rownd derfynol y gystadleuaeth glwb fwyaf yn Ewrop yn 2017 yn “wobr fwy” na’u methiant i gynnal rhai o gemau Ewro 2020.
Mae 30 o swyddogion o Gymru wedi teithio i ffeinal Cwpan Ewrop ym Milan y penwythnos yma, ble bydd Gareth Bale a Real Madrid yn gobeithio cael y gorau o Atletico Madrid, er mwyn dysgu am y trefniadau.
Un o’r pethau fydd yn rhaid ei wneud fydd meddwl am enw newydd dros dro ar gyfer Stadiwm Principality, fydd yn cynnal y gêm, gan nad yw UEFA yn caniatáu i faes y ffeinal gario enw noddwr.
Cafodd y maes sydd yn dal 74,500 o bobol ei hailenwi’n gynharach eleni, ar ôl cael ei hadnabod fel Stadiwm y Mileniwm ers iddi agor yn 1999.
‘Dewis gwell’
Fe fethodd Caerdydd â chael ei dewis yn un o’r dinasoedd ar gyfer cynnal Ewro 2020, fydd yn cael ei chwarae ar draws 13 gwlad wahanol.
Yn ôl amcangyfrifon fe allai cynnal ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, fodd bynnag, ddod â £45m i economi Cymru, ac fe ddywedodd Jonathan Ford bod llawer o waith caled wedi mynd i mewn i’w cais ar gyfer y digwyddiad.
“Mae rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn wobr fwy. Fel gêm, mae hi mor fawr â ffeinal Pencampwriaethau Ewrop,” meddai prif weithredwr CBDC.
“Mae’n cael ei dangos bobman ar draws y byd mwy neu lai, mae bron pob gwlad yn ei chymryd hi, ac mae’r gynulleidfa fyw yn un anghredadwy.
“Rydw i’n amau a fydden ni wedi cael y ddau [Ewro 2020 a ffeinal Cwpan Ewrop], felly mae hwn yn gyfle y mae’n rhaid i ni wneud y mwyaf ohoni.”