Llys y Goron Caerdydd
Roedd arogl canabis ar fabi, yr honnir iddo gael ei lofruddio gan gariad ei fam, a chafodd ei weld gyda llygad ddu a chlais ar ei ben yn y misoedd cyn iddo farw, clywodd llys heddiw.

Roedd Finley Thomas o Donypandy yn 17 mis oed pan fu farw ac mae ymchwiliad post mortem wedi dangos fod ganddo anafiadau i’w ben a’i fod wedi torri ei asennau.

Mae Sean Buckley, 28, wedi’i gyhuddo o lofruddio   Finley Thomas ac mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o achosi creulondeb i blentyn.

Mae mam Finley, Chloe Thomas, 25, yn gwadu cyhuddiad o achosi creulondeb i blentyn.

‘Arogl canabis’

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw fe fu hen fodryb Finley, Kelly Thomas, yn rhoi tystiolaeth. Dywedodd ei bod wedi gweld gwahaniaeth yn y plentyn yn y misoedd yn arwain at ei farwolaeth ac wedi arogli canabis yn ei gartref.

Dywedodd: “Nid oedd arogl glan iddo, fel yr oedd o’r blaen. Dwi ddim yn cofio pa fis, ond roedd ganddo glais cas ar ei ben. Roedd hefyd wedi dod aton ni gyda llygad ddu.”

Pan ofynnodd hi beth oedd wedi digwydd dywedwyd wrthi ei fod “wedi syrthio oddi ar y soffa a bod ei ben wedi taro’r llawr.”

Ond fe gyfaddefodd   Kelly Thomas nad oedd hi wedi gofyn beth achosodd y llygad ddu.

Clywodd y rheithgor bod Finley wedi cael ei eni ym mis Ebrill 2013 a bod ei fam a Buckley wedi dechrau canlyn blwyddyn yn ddiweddarach.

Fe fyddai Kelly Thomas yn casglu’r plentyn bob dydd Sul o gartref y teulu yn Heol Adams, Tonypandy ac yn mynd ag ef i gartref ei rhieni, meddai.

Dywedodd wrth y rheithgor ei bod wedi gweld newid yn ei nai tua chanol 2014.

Fe fu hen daid a nain Finley, Jennie ac Alan Thomas hefyd yn rhoi tystiolaeth gan ddweud eu bod hefyd wedi sylwi newid ynddo yn erbyn canol 2014 ac nad oedd yn lân.

Wrth gael eu croesholi gan fargyfreithiwr Chloe Thomas, Sally Howes QC, fe gyfaddefodd y tri bod Finley i weld yn hapus, yn ôl ei arfer, pan ddaeth i’r tŷ.

Ymosodiad ‘bwriadol a chiaidd’

Mae’r llys wedi clywed eisoes bod parafeddygon wedi cyrraedd cartref Finley ar 23 Medi 2014 a bod y ddau ddiffynnydd wedi dweud bod y plentyn wedi disgyn i lawr y grisiau. Bu farw’r diwrnod canlynol yn yr ysbyty.

Ond mae’r erlyniad yn dadlau nad oedd anafiadau Finley wedi’u hachosi drwy ddamwain a’i fod wedi marw yn dilyn ymosodiad “bwriadol a chiaidd” gan Sean Buckley.

Mae Buckley o Donypandy, a Thomas, hefyd o Donypandy yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Mae’r achos yn parhau.