Jonathon Thomas Llun: Heddlu'r De
Mae dyn 23 oed wedi ei gael yn ddieuog o ddynladdiad cyn-chwaraewr rygbi fu farw ar ôl cael ei ddyrnu unwaith yn ei ben ar noson allan.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe fod Daniel Jason Shepherd o Sgiwen, Castell-nedd “yn amddiffyn ei hun” pan darodd Jonathon Robert Thomas, 34 oed, mewn digwyddiad ar Ffordd y Dywysoges yn Abertawe ar 1 Tachwedd y llynedd.

Bu farw Jonathon Thomas yn fuan ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Treforys yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd y dyn busnes, Daniel Shepherd ei arestio yn dilyn marwolaeth Jonathon Thomas  a’i gyhuddo o ddynladdiad.

Roedd yn cyfaddef dyrnu Jonathon Thomas ond dywedodd ei fod o wedi gwneud hynny er mwyn amddiffyn ei hun.

Ar ôl i’r rheithgor fod yn ystyried eu dyfarniad am fwy na 10 awr, cafwyd Shepherd yn ddieuog o ddynladdiad ddydd Iau.

‘Marwolaeth drasig’

Mewn datganiad dywedodd Heddlu De Cymru ar ôl y dyfarniad bod eu “meddyliau gyda theulu a ffrindiau Jonathan Thomas.

“Mae ei farwolaeth drasig wedi bod yn sioc i’r gymuned ac wedi tristau pawb oedd yn ei adnabod ac yn ei garu.”

Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Gareth Morgan: “Mae’r llys wedi clywed sut y gallai un ergyd yn ystod noson allan effeithio cymaint o fywydau ac arwain at farwolaeth drasig.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl sy’n gwylio neu’n darllen am yr  achos yn cymryd yr amser i ystyried effaith un ergyd fel ein bod ni’n gallu atal digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.”