Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot Llun: PA
Mae Llywodraeth Prydain yn ystyried gwneud newidiadau pellgyrhaeddol i’r cynllun pensiwn mewn ymgais i ddiogelu’r diwydiant dur yn y DU.
Fe gadarnhaodd y Llywodraeth ei bod yn ystyried “pob opsiwn” ynghylch cronfa bensiwn gwerth £15 biliwn cwmni dur Tata, sy’n cael ei gweld fel un o’r rhwystrau o ran gwerthu’r busnes yn llwyddiannus. Yn ôl adroddiadau mae yna ddiffyg o tua £485 miliwn yn y gronfa bensiwn.
Roedd disgwyl penderfyniad ddydd Mercher gan Tata ynglŷn â rhestr fer o brynwyr posib i’r busnes, ond mae’r cwmni yn “parhau i ystyried.”
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Busnes Prydain, Sajid Javid, wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl cyrraedd nôl o Mumbai, lle bu’n trafod â chynrychiolwyr Tata, ynghyd â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Y gred yw bod gweinidogion yn paratoi ymgynghoriad ar newidiadau cyfreithiol posib, a fyddai’n galluogi ail-strwythuro cronfa bensiwn y cwmni dur.
Ond mae ’na bryder y gall y newidiadau osod cynsail beryglus.
Croeso gan Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi croesawu’r camau, gan ddweud bod ffyrdd o ddelio â’r mater heb orfod rhoi’r gronfa yng Nghronfa Diogelu Pensiynau’r Llywodraeth.
“Mae ‘na ffyrdd o ystyried newid y gyfraith ynglŷn â hyn a byddem yn annog Llywodraeth y DU i wneud hynny,” meddai wrth Channel 4 News.
“Mae’n wir i ddweud ei fod yn annhebygol y bydd unrhyw brynwr yn gwneud cynnig gyda’r rhwymedigaeth bensiwn yna.
“Ond mae ‘na ffyrdd i Lywodraeth y DU dynnu’r rhwymedigaeth honno heb roi’r gronfa yn y Gronfa Diogelu Pensiynau a fyddai wedyn yn torri budd-daliadau i’r sawl sydd eisoes ar fudd-daliadau.”
Fodd bynnag, mae’r cyn Weinidog Pensiynau, Steve Webb, wedi dweud y gallai “rhuthro i gyflwyno’r cynllun” gael effaith niweidiol ar weithwyr y tu hwnt i’r diwydiant dur.
Dur yn y G7
Wrth i uwch-gynhadledd y G7 ddechrau yn Siapan, yr argyfwng dur ledled y byd fydd y prif bwnc trafod.
Mae David Cameron wedi nodi ei fwriad i drafod ymestyn tollau’r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi bod yn “effeithiol” yn ôl y Prif Weinidog, i atal dympio dur rhad yn Ewrop.