Joan Davies fu farw mewn gwrthdrawiad bws yng Nghaerdydd Llun: Heddlu De Cymru
Mae Heddlu’r De yn apelio ar ddau deithiwr ar fws yng Nghaerdydd i gysylltu â nhw fel rhan o’u hymchwiliad i farwolaeth dynes mewn gwrthdrawiad yng nghanol y ddinas wythnos ddiwethaf.
Bu farw Joan Davies, 83, ar ôl cael ei tharo gan fws y tu allan i westy’r Hilton tua 11.15yb ddydd Mawrth, 17 Mai.
Mae dyn 50 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.
Mae teulu Joan Davies yn cael cymorth gan swyddog cyswllt teulu arbenigol.
Apêl am lygad-dystion
Mae’r heddlu parhau i apelio am lygad-dystion i gysylltu â nhw yn enwedig dwy ddynes a oedd ar y bws adeg y gwrthdrawiad.
Credir y gallai’r ddwy fod a gwybodaeth bwysig ynglŷn â’r digwyddiad.
Roedd y bws rhif 36 yn teithio o Gabalfa i ganol y ddinas, gan adael Gabalfa am 10.52 y bore.
Mae’r teithiwr cyntaf yn cael ei disgrifio fel dynes croenwyn, gyda gwallt golau at ei hysgwyddau a sbectol ar dop ei phen. Roedd ganddi fag wen, ac roedd yn gwisgo cot ddu heb lewys, top llwyd streipïog a jîns glas. Roedd yn eistedd yng nghefn y bws.
Roedd y ail deithiwr yn eistedd yng nghanol y bws ac yn ddynes groenddu, gyda gwallt tywyll at ei hysgwyddau. Roedd ganddi fag du ac roedd yn gwisgo siaced ddu, top lliw golau a sgert las.
Mae Heddlu’r De yn apelio ar y ddwy ddynes i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1600178296.