Llinell biced campws Llanbedr Pont Steffan Llun: Mared Ifan
Mae darlithwyr a staff prifysgolion ar draws y DU yn cynnal streic 48 awr ar ôl i drafodaethau fethu â datrys anghydfod dros gyflogau.
Bydd aelodau undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru (UCU) hefyd yn gwrthod gweithio goramser, na gwneud unrhyw ddyletswyddau gwirfoddol fel dysgu dosbarthiadau dros gydweithwyr absennol.
Roedd grŵp o weithwyr ar y llinell biced yng nghampws Llanbedr Pont Steffan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant heddiw.
Dywedodd Penny Dransart, arweinydd UCU lleol y Brifysgol, wrth golwg360, fod yr anghydfod yn ymwneud a chyflogau staff, yn enwedig y “bwlch” sy’n dal i fodoli rhwng gweithwyr gwrywaidd a benywaidd.
Maen nhw hefyd, meddai, yn erbyn y “canoli” staff sy’n digwydd, sy’n golygu bod mwy o staff yn cael eu symud o gampws Llanbedr Pont Steffan i un o gampysau eraill y Drindod Dewi Sant – Caerfyrddin.
Mwy o streiciau yn y dyfodol?
Os nad yw’r anghydfod dros gyflogau yn cael ei ddatrys dros yr wythnos nesaf, mae aelodau UCU wedi cytuno i gynnal rhagor o streiciau a allai effeithio ar ddiwrnodau agored, seremonïau graddio a phroses clirio prifysgolion.
Mae’r undeb hefyd yn paratoi i foicotio marcio gwaith myfyrwyr ar ddechrau’r hydref.
Mae cynnig i gynyddu cyflog staff o 1.1% wedi cael ei wrthod, gyda’r undeb yn dadlau y gallai’r prifysgolion dalu mwy ar ôl i gyflogau penaethiaid godi 5.1% y llynedd.
“Mae cynnig cyflog o 1.1% yn sarhad i staff sy’n gweithio’n galed, yn enwedig o ystyried y codiad cyflog o 5% y mae is-gangellorion wedi mwynhau, tra’n cadw cyflogau staff i lawr,” meddai Sally Hunt, ysgrifennydd cyffredinol UCU.
Mae undeb Unite, sydd â thua 12,000 o’i aelodau yn gweithio yn y sector addysg uwch, yn ystyried ymuno â’r streic ac yn cynnal pleidlais ar hyn o bryd.