Llun: PA
Yn y gyfres ddiweddaraf o dablau cynghrair ar brifysgolion, mae perfformiad pedair o wyth prifysgol Cymru wedi gostwng yn y siartiau.

Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd, De Cymru, Aberystwyth a Glyndŵr i gyd yn waeth yn eu perfformiad ers y llynedd yn nhabl gynghrair y Guardian University guide.

Ac erbyn 2017, mae’n debyg na fydd yr un brifysgol o Gymru yn y 30 uchaf ledled Prydain.

Mewn ymateb i’r canlyniadau, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arian yn y sector addysg uwch yma, er mwyn cystadlu â phrifysgolion eraill.

Canlyniadau

Prifysgol Glyndŵr a ddioddefodd y gwymp fwyaf, o fod yn safle 64 yn 2015 i 103 yn 2016, ac mae darogan y canllaw ar gyfer 2017 yn ei gweld yn cwympo i safle 119.

Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd gwympo o rif 26 i 27 yn 2016, gyda’r amcangyfrif yn 2017 yn ei gweld yn mynd i safle 33.

Fe gwympodd Prifysgol De Cymru naw safle, o 102 i 113, gyda’r amcangyfrif yn ei gweld yn cyrraedd 111 erbyn 2017.

Ac fe aeth Prifysgol Aberystwyth i lawr pedwar safle, o rif 106 i 110, ac mae disgwyl iddi fynd i fyny dau safle i 108 erbyn 2017.

Y prifysgolion yng Nghymru a lwyddodd dros y flwyddyn oedd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a gododd o safle 98 i 95, Abertawe o 57 i 52, a Bangor o 82 i 57.

Yn 2017, mae disgwyl i Brifysgol Abertawe wella ei pherfformiad eto, gan gyrraedd safle 39 yn y siart.

Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant, sy’n cynnal campysau yn Abertawe, Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan, wedi’i rhoi ar safle 117, dau safle yn uwch na’r gwaelod, a chan ei bod yn newydd, doedd dim modd ei chymharu â blynyddoedd diweddar.

Galw am fwy o arian

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r siart diweddaraf yn portreadu “darlun cymysg” ar gyfer y sector addysg uwch yng Nghymru a bod angen mwy o arian ar y sector gan Lywodraeth Cymru.

“Tra bod cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn Abertawe, Bangor a Met Caerdydd i’w groesawu, mae dwy o brifysgolion mwyaf Cymru – Prifysgol Caerdydd a De Cymru – yn llithro i lawr y tablau,” meddai Angela Burns AC.

Prifysgol Caerdydd yw’r unig brifysgol Grŵp Russell yng Nghymru, grŵp sy’n cael ei ystyried i fod uwchlaw prifysgolion eraill, felly mae gweld ei pherfformiad yn dirywio yn “codi pryder”, meddai’r Ceidwadwyr.

“Mae’r dirywiad hwn yn ganlyniad i Lywodraeth Lafur Cymru yn gwario llai ar y sector Addysg Uwch, sydd wedi gweld gostyngiad o 5% yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf,” ychwanegodd Angela Burns.

“Tra bod ei gwariant ar brifysgolion Lloegr ar ffurf grantiau ffioedd dysgu wedi cynyddu 44% i £90m.”

“Os yw’n prifysgolion am aros yn gystadleuol, mae’n rhaid iddyn nhw gael cefnogaeth gan lywodraeth gref sy’n barod i’w helpu drwy fuddsoddi, cydnabod ei rôl i ymchwil, addysgu a thwf yr economi.

“Yn hytrach, mae polisi ariannu Addysg Bellach Llafur yn rhoi cymorth i uchelgeisiau tablau cynghrair Is-gangellorion o Loegr yn unig.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.