Mae dyn 71 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â honiadau am ymosodiad rhywiol ar blentyn ar drên.

Cafodd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig eu galw i orsaf drenau Llandaf yng Nghaerdydd tua 4.46pm brynhawn ddydd Sadwrn, Mai 21.

Dywedodd llefarydd fod “swyddogion wedi mynychu’r digwyddiad” a bod “dyn 71 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.”

Mae’r dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tan Fehefin 14 tra bod ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal.

Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 0800 40 50 40, neu drwy neges destun 61016 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 349 – 21/05/ 16.