Michael Coleman Llun: Heddlu De Cymru
Mae gyrrwr tancer, a wnaeth gyfaddef achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal wedi osgoi dedfryd o garchar heddiw.
Cafodd Carl Askew, 47, o Swydd Gaerloyw ddedfryd o 32 wythnos wedi’i ohirio am ddwy flynedd gan y Barnwr David Wynn Morgan yn Llys y Goron Caerdydd.
Bu farw Michael Coleman, 50, o Fetws, ger Rhydaman, mewn gwrthdrawiad rhwng tancer a char ar 2 Tachwedd 2015, rhwng cyffordd 30 a 32 ar yr M4.
Fe wnaeth y Llys ystyried datganiad gan bartner Michael Coleman, Wendy Ann Randal, oedd yn gofyn am beidio â rhoi dedfryd o garchar i Carl Askew yn syth gan “nad oedd wedi bwriadu ei ladd”.
Yn ogystal â’i ddedfryd wedi’i ohirio, mae Carl Askew wedi cael ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd a bydd yn rhaid iddo dreulio 250 o oriau yn gwneud gwaith cymunedol.