Chris Coleman (llun: Tsafrir Abayov/PA)
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y prynhawn yma fod rheolwr y tîm cenedlaethol Chris Coleman wedi arwyddo estyniad o ddwy flynedd i’w gytundeb.
Coleman, a gafodd y swydd yn 2012, oedd yn gyfrifol am arwain Cymru i bencampwriaethau Ewro 2016 yn Ffrainc yr haf yma.
Roedd cytundeb presennol y rheolwr i fod i ddirwyn i ben yn dilyn y gystadleuaeth eleni.
Ond roedd y rheolwr a’r Gymdeithas yn gobeithio y byddai modd dod i gytundeb fyddai’n ei weld o’n aros ar gyfer ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2018.
‘Wedi dysgu’
“Mae pawb yn gwybod cymaint y mae rheoli Cymru’n ei olygu i mi,” meddai Coleman wrth gyhoeddi’r cytundeb newydd.
“Arwain fy ngwlad i Ffrainc yr haf yma fydd y foment mwyaf balch o fy ngyrfa, ac rydw i wrth fy modd mod i wedi cael y cyfle i wneud yr un peth yn Rwsia yn 2018.
“Rydyn ni wedi dysgu lot fel tîm dros y blynyddoedd diwethaf, fe fyddwn ni’n dysgu lot o’r Ewros yn yr haf, ac mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r holl brofiadau yma i’n gwthio ni ’mlaen.
“Dw i wrth fy modd ein bod ni wedi cytuno ar bethau cyn Pencampwriaethau Ewrop fis nesaf.”
Trafod newidiadau
Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas, Jonathan Ford, bod cytundeb newydd Coleman yn ‘newyddion gwych’ i’r tîm a’r cefnogwyr, gyda’r rheolwr ei hun yn ychwanegu ei fod yn awyddus i sortio’r mater cyn i’r garfan deithio i Ffrainc.
Y gred yw bod Coleman wedi cael codiad cyflog sylweddol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, a’i fod bellach ar lefel tebyg i reolwyr timau rhyngwladol eraill o’r un maint.
Ond roedd cyn-reolwr Fulham, Coventry, Real Sociedad a Larissa hefyd wedi dweud ei fod am weld rhai o strwythurau a threfniadau’r Gymdeithas Bêl-droed yn newid cyn iddo arwyddo cytundeb newydd.
Mae’r trafodaethau hynny wedi bod yn digwydd ers rhai misoedd bellach, gyda’r ddwy ochr yn dod i gytundeb mewn pryd cyn i’r Ewros ddechrau ymhen llai na thair wythnos.
Y cefndir
Fe gymerodd Coleman yr awenau bedair blynedd yn ôl mewn amgylchiadau trasig yn dilyn marwolaeth cyn-reolwr y tîm Gary Speed.
Yn dilyn ymgyrch siomedig wrth geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2014 roedd amheuon a fyddai’n parhau yn ei swydd.
Ond fe drodd y rhod yn ystod ymgyrch ragbrofol Ewro 2016, gyda Chymru’n gorffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol gan drechu Gwlad Belg a cholli dim ond un gêm allan o 10 i sicrhau eu lle yn Ffrainc.
Bydd y garfan derfynol o 23 chwaraewr ar gyfer y gystadleuaeth yn cael ei henwi’r wythnos nesaf ac yna fe fydd y tîm yn herio Slofacia, Lloegr a Rwsia yng Ngrŵp B wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y rownd nesaf.
Ym mis Medi, ar ôl yr Ewros, fe fydd Cymru wedyn yn dechrau ar eu hymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd mewn grŵp sydd yn cynnwys Awstria, Gweriniaeth Iwerddon, Serbia, Georgia a Moldofa.
Mwy i ddilyn…