Mae Caerdydd wedi cadarnhau fod yr amddiffynnwr Ben Turner ymysg y rheiny sydd wedi cael eu rhyddhau gan y clwb ar ddiwedd y tymor.

Fe dreuliodd yr amddiffynnwr bum mlynedd gyda’r Adar Gleision, gan chwarae yn yr Uwch Gynghrair a sgorio dros y clwb yn ffeinal Cwpan y Gynghrair yn 2012.

Cafodd y chwaraewr 28 oed ei eni ym Mirmingham ac roedd hefyd yn gymwys i chwarae dros Gymru, ond fe wrthododd y cyfle hwnnw yn 2012 gan esbonio ei fod yn teimlo mai Sais ydoedd.

Ymysg y chwaraewyr eraill sydd wedi cael eu rhyddhau gan Gaerdydd mae’r ymosodwr Kenwyne Jones, y golwr Joe Lewis, yr ymosodwr Etien Velikonja a’r chwaraewr canol cae Filip Kiss.

Mae’r chwaraewyr ieuenctid Jazzi Barnum-Bobb, Abdi Noor, Tyler Roche a Curtis Watkins hefyd yn gadael y clwb.

Ond mae’r Adar Gleision wedi cynnig cytundeb newydd i Tommy O’Sullivan, un o sêr tîm dan-21 Cymru, yn ogystal â Luke O’Reilly, Elijah Phipps, Jamie Veale, Macauley Southam, David Tutonda, Ashley Baker, Dylan Rees, Tom James, Robbie Patten, a Theo Wharton.