Llun: Gwefan Ewro 2016
Mae prif seren tîm Rwsia wedi gorfod tynnu nôl o’u carfan derfynol ar gyfer Ewro 2016 ar ôl torri asgwrn yn ei droed.
Roedd disgwyl i Alan Dzagoev fod yn un o brif chwaraewr y tîm yn y twrnament fis nesaf ble byddan nhw’n wynebu Cymru, Lloegr a Slofacia yn eu grŵp.
Ond fe anafodd y chwaraewr canol cae 25 oed ei droed yng ngêm olaf y tymor CSKA Moscow dros y penwythnos, gan olygu na fydd nawr yn gallu ymuno â’r garfan.
Yr asgellwr 32 oed Dmitri Torbinski, sydd yn chwarae i glwb Rubin Kazan, sydd wedi cael ei ddewis yn y garfan yn lle Dzagoev.
Profiad
Mae’r anaf diweddaraf wedi ychwanegu at drafferthion Rwsia cyn y twrnament, gyda’r chwaraewr canol cae Denis Cheryshev a’r amddiffynnwr Yuri Zhirkov hefyd yn methu’r gystadleuaeth ag anafiadau.
Mae rheolwr Rwsia Leonid Slutsky hefyd wedi gadael yr ymosodwr 33 oed Alexandr Kerzhakov, sydd wedi sgorio 30 gôl mewn 91 gêm dros ei wlad, ar ôl.
Ar y cyfan fodd bynnag mae’r rheolwr wedi enwi carfan brofiadol, gyda naw o’r 23 chwaraewr yn eu tridegau a dim ond un ohonynt yn ieuengach na 25 oed.
Yr unig chwaraewr yn y garfan sydd eto i ennill cap dros y wlad yw’r amddiffynnwr Roman Neustadter, sydd newydd benderfynu chwarae dros Rwsia yn lle’r Almaen.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae Rwsia oedd yn 2009, pan gollodd y crysau cochion gartref yng Nghaerdydd o 3-1.
Carfan Rwsia o 23 ar gyfer Ewro 2016:
Gôl: Igor Akinfeev (CSKA Moscow), Guilherme (Lokomotiv Moscow), Yuri Lodygin (Zenit St Petersburg)
Amddiffyn: Alexei Berezutski (CSKA Moscow), Vasili Berezutski (CSKA Moscow), Sergei Ignashevich (CSKA Moscow), Dmitri Kombarov (Spartak Moscow), Roman Neustadter (Schalke 04), Georgi Schennikov (CSKA Moscow), Roman Shishkin (Lokomotiv Moscow), Igor Smolnikov (Zenit)
Canol cae: Igor Denisov (Dynamo Moscow), Dmitri Torbinski (Rubin Kazan), Denis Glushakov (Spartak Moscow), Alexander Golovin (CSKA Moscow), Oleg Ivanov (Terek Grozny), Pavel Mamaev (Krasnodar), Alexander Samedov (Lokomotiv Moscow), Oleg Shatov (Zenit St Petersburg), Roman Shirokov (CSKA Moscow)
Ymosod: Artem Dzyuba (Zenit St Petersburg), Alexander Kokorin (Zenit St Petersburg), Fedor Smolov (Krasnodar)