Mae mwy na 1,400 o bobol yn cymryd rhan yn nhreiathlon Eryri ddydd Sul.

Cafodd yr holl docynnau ar gyfer y digwyddiad yn Llanberis eu gwerthu’n gynnar.

Mae’r digwyddiad yn cael ei ddisgrifio fel cyfle i nofio yn y mynyddoedd, seiclo ym Mharc Cenedlaethol Eryri a rhedeg drwy chwarel.

Ddoe, cafodd ras wibio lai ei chynnal.

Mae’r prif ddigwyddiad yn cynnwys nofio 1,000 metr, seiclo 51km a rhedeg 11km, tra bod y ras wibio’n cynnwys nofio 400 metr, seiclo 20km a rhedeg 6km.

Mae’r ras wibio lai yn cynnwys nofio 200 metr, seiclo 10km a rhedeg 2.5km.