Mae disgwyl cadarnhad ddydd Llun fod rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman yn mynd i dderbyn cytundeb newydd i barhau yn ei swydd tan ar ôl Cwpan y Byd yn 2018.
Daw cytundeb presennol Coleman i ben ar ôl Pencampwriaethau Ewrop eleni.
Mae’r cytundeb yn cael ei ystyried fel cydnabyddiaeth am arwain ei wlad i gystadleuaeth fawr am y tro cyntaf ers 1958.
Cafodd Coleman ei benodi yn dilyn marwolaeth Gary Speed yn 2012.
Bydd y newyddion yn cael ei gadarnhau i’r wasg ddydd Llun.
Roedd nifer o gyn-reolwyr, gan gynnwys Mark Hughes a Terry Yorath wedi bod yn galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i sicrhau dyfodol Coleman cyn dechrau’r gystadleuaeth ym mis Mehefin.