Mae cyn-Aelod Cynulliad y Rhondda, Leighton Andrews, wedi dweud wrth ei blaid nad oes bwriad ganddo i sefyll eto yn y Rhondda yn 2021.

Mewn canlyniad annisgwyl, collodd Leighton Andrews, o’r Blaid Lafur ei sedd <http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/223809-gwawr-newydd-ir-rhondda-meddai-leanne-wood> yn erbyn Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru.

Bydd Leighton Andrews yn dweud wrth Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Llafur ei fod yn credu bod yn rhaid i’r blaid yn y Rhondda “fyfyrio ar y canlyniad” a symud ymlaen i ddewis ymgeisydd newydd ymhen pum mlynedd.

Dywedodd y cyn-weinidog Addysg a Llywodraeth Leol Cymru ei fod yn “falch” o’r hyn mae wedi’i gyflawni.

“Rwyf wedi bod yn rhan weithredol o’r prosiect datganoli am ugain mlynedd ers helpu i sefydlu’r ymgyrch drawsbleidiol ‘Ie dros Gymru’ yn 1996,” meddai.

“Rwy’n falch o’r hyn dw i wedi’i gyflawni fel Gweinidog yn llywodraethau Llafur Cymru, yn addysg a sgiliau, moderneiddio ac arwain gwasanaeth cyhoeddus, dros yr iaith Gymraeg ac o ran y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

“Rwyf am feddwl nawr ar sut gallaf gyfrannu at Gymru yn y dyfodol.”

Gwersi i Lafur

Ychwanegodd fod gan Lafur “llawer o wersi i’w dysgu o’r canlyniadau yn y Rhondda ac etholaethau eraill yn y cymoedd” yn yr etholiad ddechrau’r mis.

“Rwy’n bwriadu cyfrannu at y broses ddysgu honno.”