Mae dau frawd, oedd yn athrawon yng Ngwynedd ac sydd wedi’u cyhuddo o greu ac o fod â delweddau anweddus o blant yn eu meddiant, wedi ymddangos yn y llys am y tro cyntaf.

Ymddangosodd Dyfan a Dr Robyn Wheldon-Williams, a gafodd eu harestio’r llynedd, gerbron Llys Ynadon Caernarfon.

Roedd Robyn Wheldon-Williams yn athro yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, a’i frawd Dyfan yn athro yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog.

Clywodd y llys fod Dr Robyn Wheldon-Williams yn wynebu wyth cyhuddiad a bod Dyfan Wheldon-Williams yn wynebu pum cyhuddiad.

Nid yw’r diffynyddion wedi cynnig ple a doedd dim manylion am eu troseddau yn y llys.

Roedd Robyn Wheldon-Williams yn ymgynghorydd Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala yn 2009, ac mae’n gyn-gyflwynydd S4C.

Mae Cyngor Gwynedd wedi pwysleisio nad oedd y cyhuddiadau’n gysylltiedig â’u gwaith fel athrawon a’u bod wedi eu gwahardd o’u gwaith pan ddaeth yr honiadau i’r amlwg.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae aelod o staff dysgu’r awdurdod wedi ei gyhuddo gan Heddlu Gogledd Cymru o droseddau’n ymwneud â chreu a bod â delweddau anweddus o blant yn eu meddiant. Fel rhan o’r un ymchwiliad, mae cyn aelod o staff dysgu’r awdurdod hefyd wedi ei gyhuddo. Nid yw’r cyhuddiadau’n gysylltiedig â’u gwaith i’r awdurdod.

“Pan ddaeth yr honiadau i sylw’r Cyngor, fe gafodd yr holl ganllawiau amddiffyn plant priodol eu dilyn, ac fe gafodd yr aelodau o staff eu hatal o’u gwaith.

“Ni fyddai’n briodol i’r Cyngor wneud sylw pellach tra bod yr achos cyfreithiol yn parhau.”