Tich Gwilym yn ifanc
Mae gwaith ymchwil academaidd wedi’i gyhoeddi sy’n taflu goleuni newydd ar fywyd a doniau’r gitarydd enwog, Tich Gwilym.
Fe benderfynodd y cerddor Rhys ‘Barf’ James, geisio canfod mwy am eicon y sin roc Gymraeg a fu farw’n 54 oed mewn tân yng Nghaerdydd, pan sylweddolodd fod cenedl o Gymry ifanc wedi colli adnabod arno.
“Pan holais ddosbarth o fyfyrwyr cerdd a oedden wedi clywed am Tich Gwilym, doedd neb wedi clywed amdano,” meddai.
Mae’r gwaith ymchwil yn cynnwys gwybodaeth newydd am y gitarydd o Gwm Rhondda, sy’n adnabyddus i lawer am ei ddehongliad Jimi Hendrixaidd o ‘Hen Wlad fy Nhadau’ ar gitâr drydan.
Bu Rhys James yn cyfweld rhai o gerddorion mwyaf Cymru i ddod i adnabod Tich, fel Siân James, Geraint Jarman, Dewi ‘Pws’ Morris a Peredur ap Gwynedd.
Cefnogi Led Zeppelin
Daeth i’r fei bod Tich Gwilym wedi cefnogi Led Zeppelin, Fleetwood Mac a Jethro Tull mewn digwyddiad yn 1969 – ac yntau ond yn 19 oed. Fe gafodd wahoddiad hefyd i wneud record finyl yn 14 neu 15 oed.
Llwyddodd i chwarae gig er i’w ysgyfaint ddymchwel ac roedd hefyd yn feistr ar grefft ymladd Siapaneaidd Aikido, gan wireddu breuddwyd drwy ymweld â Siapan fel rhan o fand Siân James.
Mae Rhys James, sy’n gitarydd i Fflur Dafydd a’r Barf a Mattoidz, hefyd yn astudio techneg Tich, gan baratoi clipiau fideo a ffeiliau sain i helpu cerddorion eraill i ddeall sut roedd yn creu ei sain unigryw.
Creu esiamplau o arddull Tich
“Roedd Tich yn feistr ar bob math o dechnegau ar y gitâr, ac yn gallu eu cyflawni’n ddiymdrech yng nghanol caneuon,” meddai Rhys James.
“Rydw i wedi creu esiamplau o arddull chwarae Tich ar gyfer gitaryddion. Y bwriad yma yw dangos rhai o’i dechnegau a’i syniadau fel man cychwyn, gan obeithio y bydd yn ysbrydoli gwrando mwy treiddgar.”
Fe gafodd Rhys James grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wneud y gwaith a chanlyniad hynny oedd creu tudalen wybodaeth, gan gynnwys clipiau sain ar Esboniadur y Coleg.
“Y gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn rhoi rhagarweiniad i’w fywyd cerddorol, gan anelu at ysbrydoli myfyrwyr y genhedlaeth nesaf i ymddiddori yn ei gerddoriaeth ac i ddysgu o’i berfformiadau,” ychwanegodd Rhys James.
“Credaf ei fod yn hollol briodol fod Tich Gwilym yn cael ei adnabod fel eicon Cymraeg ac un o’r gitaryddion gorau o Gymru, os nad y byd.”