Gyda thair wythnos yn unig i fynd nes gêm agoriadol Ewro 2016, mae’r awdurdodau yn Ffrainc yn dweud eu bod yn disgwyl hyd at filiwn o ymwelwyr o dramor.
Bydd Ffrainc yn herio Rwmania yng ngornest agoriadol y twrnament nos Wener 10 Mehefin, a’r diwrnod canlynol fe fydd Cymru’n wynebu Slofacia yn eu gêm gyntaf.
Fe fydd Gareth Bale a’r tîm hefyd yn wynebu Lloegr a Rwsia yn eu grŵp, gan obeithio cyrraedd y rowndiau nesaf a herio rhai o gewri pêl-droed Ewrop.
Yn y cyfamser mae llywodraeth Ffrainc wedi cymryd camau sylweddol i wella diogelwch ar gyfer y gystadleuaeth, yn enwedig yn sgil yr ymosodiadau brawychol ym Mrwsel eleni ac ym Mharis llynedd.
Miloedd yn teithio
Mae disgwyl y bydd yr ymwelwyr o dramor ac o fewn y wlad ei hun yn cyfrannu hyd at €1.2bn (£920m) i economi Ffrainc yn ystod mis y twrnament, yn ôl papur newydd Le Monde.
Cafodd dros 50,000 o docynnau eu gwerthu i gefnogwyr Cymru drwy’r Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer tair gêm grŵp tîm Chris Coleman.
Y disgwyl yw y bydd llawer o Gymry hefyd yn teithio heb docynnau.
Roedd eraill yn ddigon lwcus i gael rhai drwy’r arwerthiant cyffredinol neu’r wefan ailwerthu swyddogol, gan olygu bod disgwyl i ddegau o filoedd o Gymry fod yn y wlad yn ystod y gystadleuaeth.
Mae disgwyl i ddilynwyr Lloegr, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon fod yn niferus yn ystod Ewro 2016 hefyd – y tro cyntaf i bedwar tîm o ynysoedd Prydain gyrraedd twrnament pêl-droed rhyngwladol ers 1958.
Amheuon dros Ledley
Gareth Bale fydd prif seren tîm Cymru yn ystod y gystadleuaeth, ac mae ymosodwr Real Madrid eisoes wedi mwynhau tymor da arall gan sgorio 21 gôl i’w glwb a’i wlad.
Fe fydd angen yr amddiffyn cadarn a amlygodd ei hun yn ystod yr ymgyrch ragbrofol unwaith eto ar Gymru yn y twrnament ei hun wrth iddyn nhw wynebu’r goreuon sydd gan Ewrop i’w gynnig.
Mae disgwyl i’r rheolwr Chris Coleman ddewis ei garfan derfynol o 23 chwaraewr ar gyfer yr Ewros ar 31 Mai, a hynny ar ôl mynd a grŵp estynedig o 29 ohonynt ar wersyll ymarfer i Bortiwgal yr wythnos nesaf.