Joe Ledley
Mae gan Joe Ledley obaith o hyd o fod yn holliach ar gyfer Ewro 2016, yn ôl rheolwr Crystal Palace Alan Pardew.

Cafodd y chwaraewr canol cae anaf i asgwrn yn ei goes bythefnos yn ôl gan olygu y bydd yn methu ymddangosiad ei glwb yn ffeinal Cwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.

Cael a chael fydd hi hefyd iddo wella mewn pryd erbyn pencampwriaethau Ewrop mewn ychydig dros dair wythnos, ac mae’n rhaid i Chris Coleman enwi’i garfan derfynol o 23 chwaraewr ar 31 Mai.

Fe allai hynny olygu wedyn bod Andy King, David Vaughan, Dave Edwards neu Emyr Huws yn cystadlu am ei le yn y tîm.

Ond mae rheolwr Cymru yn bwriadu rhoi pob cyfle i Ledley brofi’i ffitrwydd cyn hynny, o ystyried ei fod yn un o chwaraewyr amlycaf y garfan.

‘Mae ganddo siawns’

Wrth baratoi i wynebu Manchester United ymhen deuddydd, dywedodd Alan Pardew heddiw y byddai wedi cynnwys Ledley yn nhîm Crystal Palace ar gyfer y ffeinal petai’n ffit.

Ac fe fydd e’n cael help yn ei frwydr i geisio bod yn ffit erbyn yr Ewros gan ffisiotherapydd Palace, Sean Connelly, sydd hefyd yn gweithio gyda thîm Cymru.

“Pan fydd tîm Cymru’n cyfarfod, fe fydd ein physio ni’n mynd draw gyda nhw a Joe,” cadarnhaodd Pardew.

“Fe ddylai hynny roi cyfle gwirioneddol iddo ar gyfer yr Ewros.”