Llys y Goron Caerdydd
Mae’r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn yr achos yn erbyn pedwar aelod o’r un teulu sydd wedi’u cyhuddo o orfodi dyn i weithio iddyn nhw yn erbyn ei ewyllys.

Mae Patrick Joseph Connors, 59, ei ddau fab Patrick Dean Connors, 39, a William Connors, 36, a’i fab yng nghyfraith Lee Christopher Carbis, 34, wedi bod yn sefyll eu prawf yn Llys y Goron Caerdydd.

Mae’r erlyniad yn honni bod Michael John Hughes, sy’n dod o’r Alban, wedi cael ei orfodi i weithio oriau hir ym musnes y teulu am gyn lleied â £5 y dydd dros  gyfnod o 26 mlynedd.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Michael Hughes y byddai’n cael ei guro os nad oedd yn gwneud y gwaith a bod y teulu wedi dod i chwilio amdano pan oedd wedi ceisio dianc.

Dywedodd hefyd ei fod wedi byw mewn sied yn yr ardd heb ddŵr na gwres am ddwy flynedd.

Ond mae’r amddiffyniad yn dadlau bod ’na anghysonderau yn nhystiolaeth Michael Hughes, a’i fod wedi cael ei dalu’n weddol dda ac yn rhydd i fynd a dod.

Yn ôl bargyfreithwyr ar ran y teulu Connors, roedd Michael Hughes yn aml yn mynd i’r dafarn gyda ffrindiau ac wedi bod ar wyliau dramor gyda’i gariad.

Mae Hughes, 46, hefyd yn gwadu honiadau ei fod wedi dwyn achos yn erbyn ei gyn-gyflogwyr er mwyn “achub ei groen” ar ôl cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad gan safonau masnach i fusnes y Connors.

Mae erlynwyr hefyd yn honni bod ail ddyn yn yr achos – sy’n cael ei adnabod fe Mr K – hefyd wedi cael ei gipio a’u bod wedi ymosod arno.

Mae’r diffynyddion yn gwadu un cyhuddiad o orfodi person i gyflawni llafur gorfodol rhwng 2010 a 2013.

Mae’r tad Patrick Joseph Connors, 59, o Rymni, hefyd wedi pledio’n ddieuog i wyth cyhuddiad o achosi niwed corfforol, pedwar cyhuddiad o gipio, ac un o gynllwynio i gipio rhwng 1990 a 2012.

Mae Carbis hefyd wedi pledio’n ddieuog i un cyhuddiad o gipio rhwng 2001 a 2002.

Mae’r Barnwr Neil Bidder QC eisowed wedi dweud wrth y rheithgor y bydd yn eu harwain i gael Patrick Dean Connors yn ddieuog o gynllwynio i gipio, a William Connors yn ddieuog o gyhuddiad o achosi niwed corfforol.