Llun: PA
Bydd cynghorwyr Dinas Casnewydd yn trafod safle parhaol ar gyfer ysgol uwchradd Gymraeg cyntaf y ddinas heddiw.

Ar ddechrau’r flwyddyn, cafodd y cais cynllunio ei wrthod gan bwyllgor cynllunio y Cyngor, a hynny oherwydd pryderon am lifogydd ar safle’r ysgol uwchradd Saesneg bresennol, Ysgol Uwchradd Dyffryn.

Cafodd y Cyngor ei feirniadu gan ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg, oedd yn dadlau bod modd lliniaru perygl y llifogydd a dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Paul Flynn, fod y penderfyniad yn un “emosiynol”.

Er hyn, fe wnaeth y Cyngor fynnu mai penderfyniad ar sail cynllunio oedd hyn, a nododd fod gan y Cyngor “ddyletswydd gyfreithiol” i ddarparu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.

Bydd y cais yn cael ei drafod heddiw gan y Cyngor llawn, ac os caiff ei ganiatáu, bydd dwy ysgol ar y safle – yr ysgol uwchradd Saesneg bresennol a’r un Gymraeg newydd.

Mae’r cais gwerth £17m yn cynnwys adeiladu dau adeilad tri llawr.

Mae swyddog cynllunio’r Cyngor yn dal i argymell gwrthod y cais.