Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i gadw’i gyfrifoldeb am y Gymraeg, gan alw hefyd am gyfarfod gyda fe i drafod ei raglen lywodraethol.
Cafodd Carwyn Jones ei ail-ethol yn Brif Weinidog ddydd Mercher, yn dilyn wythnos o drafodaethau ar ôl iddo fethu â sicrhau digon o bleidleisiau yn y bleidlais yn y Senedd y tro cyntaf.
Yn ôl y mudiad iaith, yn nhymor diwethaf y Cynulliad, fe wnaeth Carwyn Jones ymrwymo i’w galwadau oedd yn cynnwys addewid maniffesto Llafur i gymryd “camau ymarferol i fodloni (ein) targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg”.
Yn dilyn yr addewid hwn, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Llywodraeth i fanylu ar y camau hynny yn ei rhaglen lywodraethol.
Roedd galwadau eraill y mudiad yn cynnwys atal yr allfudiad a sicrhau llwybrau i ddod â Chymry Cymraeg yn ôl i’w cymunedau, a defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.
“Her” i Carwyn
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan, yn dweud iddo gael ei “galonogi” gan “ymrwymiad personol” Carwyn Jones i weledigaeth y mudiad.
“Hoffem eich annog i amlinellu’n fanwl yn eich rhaglen lywodraeth newydd sut y byddwch chi’n mynd ati i gyrraedd y nodau hynny,” meddai.
Gyda Chymru’n colli tua thri mil o siaradwyr Cymraeg y flwyddyn, mae’r Gymdeithas yn cydnabod y bydd ceisio cyrraedd miliwn o siaradwyr yn “heriol”.
Mae nifer o ffactorau tu ôl i’r patrwm presennol, ond mae arbenigwyr yn pwysleisio bod rhaid gweld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg,” ychwanegodd Jamie Bevan.
“Mae ehangu defnydd a normaleiddio’r Gymraeg drwy’r cwricwlwm newydd yn ein holl sefydliadau addysg yn ogystal â chynyddu’r nifer o ysgolion Cymraeg yn rhannau canolog o gyrraedd y nod.
“O ran cynyddu defnydd y Gymraeg, rydym yn falch o weld eich ymrwymiad i ehangu deddfwriaeth iaith i ragor o’r sector breifat.