Carwyn Jones (Llun: Flickr/Cynulliad Cymru)
Mae disgwyl i Carwyn Jones gyhoeddi pwy fydd yng nghabinet Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach heddiw wedi iddo gael ei gadarnhau yn Brif Weinidog Cymru yn ystod sesiwn yn y Senedd ddoe.

Mae’n anochel y bydd wynebau newydd yn y cabinet gan fod rhai gweinidogion y cabinet wedi gadael y Cynulliad yn yr etholiad bythefnos yn ôl. Fe wnaeth Edwina Hart a Huw Lewis roi’r gorau i fod yn ACau tra bod Leighton Andrews wedi colli ei sedd yn y Rhondda i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Mae peth darogan wedi bod hefyd y bydd Carwyn Jones yn defnyddio’r cyfle i ailstrwythuro’r cabinet.

Ddoe, cafodd Carwyn Jones ei ailethol yn Brif Weinidog ar ôl i enwebiad Leanne Wood gael ei dynnu’n ôl gan AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, a hynny ar ôl iddyn nhw ddod i ddealltwriaeth â’r Blaid Lafur er mwyn caniatáu i’w harweinydd gymryd yr awenau.

‘Gwyleidd-dra’

Dywedodd Carwyn Jones mewn araith yn y Senedd ddydd Mercher mai “camu ymlaen yn ofalus a gyda gwyleidd-dra” fyddai nod ei lywodraeth leiafrifol, ac y byddai’n rhaid iddi “fod yn fwy agored na’r un flaenorol”.

Ac wrth amlinellu blaenoriaethau’r llywodraeth newydd, dywedodd Carwyn Jones y byddai “ffocws diflino” ar y diwydiant dur, ac y bydden nhw’n ymgyrchu o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd na fyddai ei lywodraeth yn cynnig deddfwriaeth newydd am o leiaf 100 niwrnod, gan roi cyfle i’r Cynulliad newydd ymgartrefu.

Ond wrth gyfeirio at y ddeddfwriaeth fydd yn cael ei chyflwyno wedi hynny, awgrymodd fod Bil Iechyd y Cyhoedd a Deddf Iaith Gymraeg newydd ymhlith blaenoriaethau’r llywodraeth.

Ychwanegodd fod ei lywodraeth hefyd yn awyddus i weld Mesur Cymru’n dod i rym, ynghyd â sefydlu Swyddfa Gabinet newydd.