Fe fu gostyngiad o 5,000 (4.8%) yn nifer y bobl sy’n ddi-waith yng Nghymru yn ystod y tri mis diwethaf, yn ôl y ffigurau diweddaraf a gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher.

Mae nifer y bobl sy’n ddiwaith yng Nghymru bellach yn 74,000.

Roedd gostyngiad o 2,400 drwy holl wledydd Prydain yn nifer y bobol sy’n hawlio budd-daliadau i 737,800, ond roedd cynnydd o 14,700 o Chwefror i Fawrth, y nifer fwyaf ers hydref 2011.

Fe fu gostyngiad o 139,000 yn nifer y bobol ddi-waith yn y DU dros y flwyddyn ddiwethaf.

1.69 miliwn o bobol sy’n ddi-waith yng ngwledydd Prydain erbyn hyn.

745,000 o swyddi gweigion sydd ar gael yng ngwledydd Prydain, sy’n ostyngiad o 18,000 – y gostyngiad cyntaf ers bron i flwyddyn.

31.5 miliwn o bobol sydd mewn gwaith yng ngwledydd Prydain erbyn hyn, sy’n cyfateb i 74% o’r boblogaeth oed gwaith.

Marchnad swyddi’n “gostegu”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau fod y farchnad swyddi’n gostegu rywfaint.

Roedd cynnydd blynyddol o 2% yng nghyflogau hyd at fis Mawrth, sy’n gynnydd o 0.1% ers mis Chwefror.

Roedd 116,000 yn llai o fenywod yn economaidd anweithgar o’i gymharu â’r un adeg y llynedd.

Fe fu cynnydd o 182,000 yn nifer y gweithwyr hunangyflogedig i 4.7 miliwn, y nifer fwyaf erioed.

Bellach, mae 98,000 yn cymryd rhan mewn rhaglenni cyflogaeth a hyfforddiant – sy’n ostyngiad o 7,000.

3.34 miliwn o bobol o’r tu allan i’r DU sy’n gweithio yng ngwledydd Prydain erbyn hyn – sy’n gynnydd blynyddol o 229,000.

‘Y gwaith ddim ar ben’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Stephen Crabb: “Mae mwy o bobol mewn gwaith yn golygu bod mwy o deuluoedd yn y DU yn elwa o sicrwydd cyflog cyson a’r cyflawniad a ddaw yn sgil cyflogaeth.

“Ond dydy’r gwaith ddim ar ben, a dyna pam fod ein diwygiadau lles, megis Credyd Cynhwysol, yn sicrhau ei bod hi bob amser yn talu ar ei ganfed i weithio.”

‘Calonogol’

Wrth ymateb i’r ffigurau dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r ffaith bod y farchnad lafur yng Nghymru’n perfformio’n well na marchnadoedd llafur rhannau eraill y DU ac yn parhau i fynd o nerth i nerth yn galonogol iawn.

“Mae lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu’n gyflymach na’r lefelau yn rhannau eraill y DU dros y chwarter diwethaf ac mae bellach wedi cyrraedd y ganran uchaf erioed i Gymru, sef 72.5%. Gwelwyd y lleihad mwyaf mewn lefelau diweithdra yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal o’i gymharu â rhannau eraill y DU.

“Erbyn hyn mae cyfradd Cymru gryn dipyn yn is na chyfradd yr Alban a chyfradd y DU gyfan.”