Hywel Williams AS
Ar drothwy agoriad swyddogol Senedd San Steffan ddydd Mercher, mae Plaid Cymru wedi rhybuddio bod perygl y gallai Cymru gael ei dal yn ôl oherwydd natur Brydeinig yr araith.

Yn hytrach, mae’r Blaid wedi cyflwyno agenda amgen i “ideoleg Lundeinig San Steffan fydd yn amddifadu anghenion economaidd Cymru”.

Maen nhw’n gobeithio manteisio ar ddadleuon mewnol o fewn y Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol, a’r rhwyg sy’n debygol o ddigwydd yn sgil y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Diben eu mesurau, yn ôl Plaid Cymru, yw “gwneud Cymru yn gryfach, yn saffach ac yn fwy llewyrchus”.

Mae disgwyl i Araith Amgen Plaid Cymru gynnwys cynlluniau i gyflwyno Mesur Cronfeydd Brys yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gwarchod arian o Ewrop pe bai’r ymgyrch ‘Brexit’ yn llwyddo.

Hefyd ymhlith y mesurau mae Mesur Comisiwn Cyllid y DU er mwyn gwyrdroi blynyddoedd o dangyllido; Cytundeb Twf Gogledd Cymru i sicrhau buddsoddiad isadeiledd ystyrlon yn y gogledd; Mesur Plismona i weithredu’r argymhellion trawsbleidiol diweddar i ddatganoli’r heddlu; Mesur Pontydd Hafren i alluogi Llywodraeth Cymru i roi stop ar drethi’r pontydd ar dwf economaidd; a Mesur Darlledu i ddatganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru.

‘Dim ymrwymiad’

Mewn datganiad, dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams: “Heddiw rydym wedi amlinellu cynllun amgen cadarnhaol Plaid Cymru i flwyddyn arall o esgeulustod a thranc dan lywodraeth Dorïaidd sy’n mynnu cadw at gynllun economaidd methedig i dyfu Dinas Llundain ar draul gweddill y DU.

“Mae Araith Amgen Plaid Cymru yn cynnwys cynlluniau sydd wedi eu dylunio i gefnogi buddiannau Cymru ac i sicrhau’r polisïau sydd eu hangen i greu Cymru gryfach, saffach a mwy llewyrchus.

“Dylai’r Llywodraeth Geidwadol fod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i greu twf economaidd yng Nghymru drwy fuddsoddi mewn ffyrdd a rheilffyrdd, uwchraddio isadeiledd digidol, a gwneud Cymru’n lle mwy deniadol i wneud busnes.

“Yn hytrach, maent ar chwâl yn sgil cecru mewnol a rhaniadau chwerw dros Ewrop.

“Maent wedi addo trydaneiddio Prif Lein y Gorllewin ond wedi methu’n llwyr a chynnig amserlen. Ar yr un pryd maent yn fwy na pharod i wario biliynau ar HS2 a HS3 – prosiectau Lloegr-yn-unig sy’n cael eu gwerthu ar gam fel buddsoddiadau Prydeinig.

“Nid yw ymrwymiad heb amserlen yn ymrwymiad o gwbl.

“Gyda’r wrthblaid ‘swyddogol’ honedig yn gorfod rhoi sylw i ffraeo mewnol tra’n methu a chytuno ar ei phwrpas, unwaith eto dim ond Plaid Cymru sydd yn brwydro dros fuddiannau ein gwlad yn San Steffan, a dyna beth fyddwn yn parhau i’w wneud.”