Mae dynes 82 oed wedi marw ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a bws wrth iddi gerdded ger gwesty’r Hilton yng Nghaerdydd y bore ma.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn dilyn y digwyddiad tua 11.15yb bore dydd Mawrth ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei theulu wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddog cyswllt teulu.

Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion i’r gwrthdrawiad, unrhyw un a oedd wedi rhoi cymorth i’r ddynes neu a welodd y bws yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, ac sydd heb roi eu manylion i’r heddlu hyd yn hyn.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1600178296.