Ysgol Penfro (Llun yn y parth cyhoeddus)
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw disgybl fu farw ar dir gerllaw safle  Ysgol Penfro yn Noc Penfro ddydd Llun.

Roedd Luke Barzewicz-Dower yn 15 oed ac yn ddisgybl blwyddyn 10 yn yr ysgol.

Mewn teyrnged iddo heddiw dywedodd Prifathro Ysgol Penfro Frank Ciccotti, ei fod yn ddisgybl oedd “yn uchel iawn ei barch a chyda llawer o ffrindiau agos.”

“Roedd yn gymeriad annwyl, cwrtais a pharchus, ac roedd yn alluog gyda’r potensial i gyflawni’n dda. Fe fyddwn ni’n ei golli’n fawr iawn,” meddai.

Ychwanegodd Frank Ciccotti fod gweithwyr cefnogi a chynghori wedi cynorthwyo disgyblion a staff yr ysgol wedi’r “digwyddiad trasig,” ynghyd â’r heddlu, yr awdurdod lleol a’r eglwysi lleol.

“Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys gyda’i ffrindiau a’i deulu,” ychwanegodd y prifathro gan ddweud eu bod yn cynnal cyfres o wasanaethau arbennig yn yr ysgol.

Mae ymchwiliadau’r Crwner a’r heddlu yn parhau.