Llys y Goron Caerdydd
Mae meddyg wedi’i chael yn ddieuog o wneud unrhyw beth o’i le yn dilyn marwolaeth plentyn 12 oed o Abertyleri.
Roedd Lyndsey Thomas wedi cael ei chyhuddo o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd ar ôl i Ryan Morse farw o glefyd prin Addison.
Ond fe wnaeth y barnwr arwain y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd i’w chael yn ddieuog.
Mae Barnwr yr Uchel Lys, Nicola Davies, bellach wedi dod a’r achos yn erbyn Dr Lyndsey Thomas, 42, i ben ar ôl “ystyried yn ofalus”.
Er hyn, bydd yr achos yn erbyn ei chydweithiwr, Dr Joanne Rudling, yn parhau.
Ar ôl ei chael yn ddieuog, dywedodd datganiad ar ran Lyndsey Thomas ei bod “yn falch iawn” bod yr achos yn ei herbyn wedi dod i ben a’i bod yn estyn cydymdeimlad at deulu Ryan Morse.
Clefyd Addison
Bu farw Ryan yn ei gartref ym Mrynithel, Abertyleri, ychydig wythnosau cyn Nadolig 2012 ar ôl bod yn sâl am bedwar mis.
Yn dilyn ei farwolaeth, daeth i’r amlwg ei fod wedi marw o Glefyd Addison, afiechyd prin ond un y gellir ei drin, sy’n effeithio dim ond 10 mewn 100,000 o bobl.
Roedd erlynwyr wedi cyfaddef nad oedd disgwyl i’r meddygon roi diagnosis o Glefyd Addison, ond fe ddylai rhywun fod wedi ymweld â Ryan Morse yn ei gartref neu ffonio 999 ar ôl i’w fam ffonio Meddygfa Abernant ar 7 Rhagfyr yn mynegi pryderon am iechyd ei mab.
Clywodd y llys fod Carol Morse wedi siarad â Lyndsey Thomas yn y bore cyn siarad â Joanne Rudling am 5:45pm, eto dros y ffôn.
Achos yn parhau
Ond roedd cyfreithwyr Dr Thomas wedi dadlau nad oedd digon o dystiolaeth yn ei herbyn, gan ddod a’r achos yn ei herbyn i ben.
Yn dilyn y dyfarniad yn achos Dr Thomas, dywedodd Mrs Ustus Davies fod y cyhuddiadau yn erbyn Dr Rudling yn parhau.
Mae Joanne Rudling, 46 o Bontprennau, Caerdydd, yn gwadu dynladdiad drwy esgeulustod dybryd a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae’r achos yn parhau.