Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 73 oed fu farw ar ôl cael ei drywanu yng Nghwm Ogwr.
Cafodd Gwilym Jones ei ladd mewn eiddo yn Llys Rhydychen yn y pentref.
Mae dyn 49 oed, sydd wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio dynes 21 oed, yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae’r heddlu wedi dechrau ymchwiliad ac mae mwy o swyddogion ar batrol yn yr ardal, gyda ditectifs yn apelio am wybodaeth.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod teulu Gwilym Jones yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu yn y cyfnod “gofidus” hwn.
“Mewn sioc”
“Mae’r gymuned leol wrth gwrs mewn sioc ac wedi tristau o glywed am y digwyddiad ac rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru, meddai’r Prif Dditectif Arolygydd, Kath Pritchard.
“Mae Cwm Ogwr yn gymuned glos iawn, ac mae digwyddiadau fel hyn yn brin iawn. Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw aflonyddwch yn ardal Llys Rhydychen i gysylltu â ni yn gyfrinachol.”
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1600176350.