Nicola Sturgeon Llun: PA
Mae Nicola Sturgeon wedi cael ei hethol yn Brif Weinidog yr Alban gan aelodau’r Senedd yn Holyrood.
Fe fydd arweinydd yr SNP yn arwain llywodraeth leiafrifol ar ôl i’w phlaid ennill 63 o’r 129 o seddi yn Holyrood yn dilyn yr etholiad ar 5 Mai – dwy yn brin o fwyafrif.
Fe fydd Nicola Sturgeon nawr yn cael ei phenodi’n ffurfiol gan y Frenhines ar ôl cael ei hethol gan Aelodau Seneddol yr Alban.
Daeth yn Brif Weinidog benywaidd cynta’r Alban yn 2014, gan olynu Alex Salmond, a ymddiswyddodd yn dilyn pleidlais Na yn y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban.
Fe enillodd Nicola Sturgeon y bleidlais i fod yn Brif Weinidog gyda 63 o’r pleidleisiau o gyfanswm o 127. Cafodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban, Willie Rennie, bum pleidlais ac roedd 59 wedi atal eu pleidlais.
Leanne Wood wedi ‘ysbrydoli’ Rennie
Dywedodd Willie Rennie ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan “arweinydd benywaidd y cenedlaetholwyr” gan gyfeirio at ymdrech Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, i gael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru. Cafodd hi a Carwyn Jones 29 pleidlais yr un ar ôl i’r Ceidwadwyr a Ukip gefnogi Leanne Wood.
Ond ychwanegodd Willie Rennie: “Yn wahanol i Leanne Wood, fydda’i ddim yn dibynnu ar bleidleisiau Ukip heddiw.”
Mae’r ddwy blaid bellach wedi dod i gytundeb a fydd yn golygu y bydd Carwyn Jones yn parhau’n Brif Weinidog.