Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad difrifol rhwng dau gerbyd ger Capel Curig yn Eryri y bore ma.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am 8.39yb bore dydd Mawrth ar ol i  ddau gerbyd, Seat Leon coch a Mercedes, wrthdaro y tu allan i Gaffi Siabod.

Bu farw gyrrwr y Seat Leon yn y fan a’r lle.

Bu’r A5 ynghau am rai oriau ond mae’r ffordd bellach wedi ail-agor.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad a dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.