(Llun: Y Lolfa)
Mae’r sylwebydd pêl-droed adnabyddus Dylan Ebenezer wedi cyhoeddi cyfrol newydd yn llawn gwybodaeth a hanes y timau fydd yn Ewro 2016 yr haf hwn.

Yn ôl cyhoeddwyr Y Lolfa, dyma’r unig lyfr Cymraeg am y bencampwriaeth sydd yn cael ei chyhoeddi a hynny i nodi ymddangosiad tîm Cymru yn y gystadleuaeth.

Mae is-reolwr y tîm cenedlaethol, Osian Roberts, hefyd wedi cyflwyno rhagair ar gyfer y llyfr ac wedi diolch i’r cefnogwyr am eu holl gefnogaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd Cymru’n wynebu Slofacia yn eu gêm agoriadol o’r twrnament ym Mordeaux ar 11 Mehefin, cyn herio Lloegr a Rwsia yn eu gemau grŵp eraill.

Cynnwys Cymraeg

Mae’r gyfrol wedi’i hanelu’n bennaf ar gyfer plant rhwng 9 ac 13 oed, ac fe ddywedodd Y Lolfa eu bod yn awyddus i ychwanegu cynnwys Cymraeg at y pair o lyfrau, cylchgronau a sticeri sydd yn rhan o’r bwrlwm o gwmpas yr Ewros.

“Mae 58 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i Gymru gyrraedd un o brif gystadlaethau’r byd pêl-droed,” meddai Dylan Ebenezer, fydd yn cyflwyno holl gemau grŵp Cymru yn fyw ar S4C.

“Ond bellach mae tîm pêl-droed Cymru ar ei ffordd i Ffrainc, ynghyd â miloedd o gefnogwyr llawn cyffro o bob oed sy’n cael gwireddu breuddwyd o’r diwedd a chyfle i sêr fel Bale, Ramsey ac Allen wneud eu marc!”

Herio’r goreuon

Ychwanegodd Osian Roberts y byddai’r gystadleuaeth yn gyfle i Gymru herio’r goreuon yn y byd pêl-droed, ac y byddai’r cefnogwyr yn hanfodol i’w hymdrechion.

“Ble bynnag byddwch yn gwylio’r gemau, diolch am eich cefnogaeth, nid yn unig yn ddiweddar ond yn ystod y dyddiau anodd hefyd,” meddai’r is-reolwr.

“Mae’n golygu cymaint i bawb sy’n rhan o’r tîm arbennig yma. Gyda’n gilydd yn gryfach.”