Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Llun: Swyddfa'r Ombwdsmon
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi’i feirniadu’n llym ar ôl i fam orfod aros am bron i ddwy flynedd am ymateb i gŵyn am driniaeth i lygad ei mab ar y Gwasanaeth Iechyd.
Am y tro cyntaf erioed, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad arbennig i’r mater, gan gyhuddo’r Bwrdd Iechyd o ddangos “diffyg parch dychrynllyd.”
Mae’r adroddiad yn nodi y dylai Prif Weithredwr Hywel Dda adolygu adnoddau’r tîm cwynion i ddelio â chwynion cyn adrodd yn bersonol i’r Ombwdsmon.
‘Diffyg parch dychrynllyd’
Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ei fod yn “siomedig na lwyddodd y Bwrdd Iechyd i gadw at ei addewid ac ymateb yn llawn i bryderon ‘Ms A’ [nid ei henw iawn] ynghylch triniaeth ei mab a hynny o fewn amserlen resymol.”
Esboniodd fod y ddynes wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd yn wreiddiol yn 2014, ac unwaith eto ym mis Ionawr 2016.
“Mae’r ffaith nad yw’r mater wedi’i ddatrys ar ôl bron i ddwy flynedd yn dangos diffyg parch dychrynllyd tuag at Ms A a’i mab, ac wedi ychwanegu straen diangen i deulu Ms A,” meddai Nick Bennett.
‘Monitro’n ofalus’
Ychwanegodd fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r Ombwdsmon wedi i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, a’u bod wedi cytuno i weithredu’r argymhellion.
“Fodd bynnag, yr wyf yn dal i bryderu’n ddifrifol ynghylch sut mae’r Bwrdd Iechyd yn rheoli ei drefniadau delio â chwynion, am ei ddidwylledd a’i lywodraethiad a byddaf yn ei fonitro’n ofalus dros y misoedd nesaf.”
‘Anfaddeuol’
Bellach, mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore, wedi ymddiheuro am y modd y gwnaeth y Bwrdd ddelio â’r gŵyn, gan ddweud ei fod yn “anfaddeuol ac ni ddylid byth fod wedi digwydd.”
Dywedodd eu bod yn “cydnabod” nad oedd eu hymateb yn ddigonol ac esboniodd fod “ôl-groniad sylweddol o gwynion” wedi casglu.
Er hyn, dywedodd “nid yw hyn yn esgus, ond yn hytrach mae’n esboniad o’r lle’r oeddem. Ers hynny, rydym wedi buddsoddi amser ac arian i fynd i’r afael â hyn a gwneud gwelliannau sylweddol i’n gallu i reoli pryderon yn briodol ac mewn modd amserol.”
Ychwanegodd fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ymateb i gamau gweithredu’r adroddiad ers hynny, ac yn galw ar y “boblogaeth i ymddiried ynom ni ein bod wedi gwneud gwelliannau sylweddol ac i beidio â digalonni rhag rhannu pryder.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud yn iawn dros bobol sydd heb dderbyn y gofal y dylent ei ddisgwyl ac felly mae modd i ni ddysgu a rhannu gwersi gwerthfawr er mwyn llywio gwelliant parhaus ein gwasanaethau,” meddai Steve Moore.