Alex Chamberlain Llun: Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai dyn 26 oed o ardal Argoed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dwy lori a fan yn ardal Caerffili ddoe.

Dywedodd yr heddlu bod Alex Chamberlain, a oedd yn gyrru fan Vauxhall combo, wedi’i gludo i Ysbyty Athrofal Cymru, lle bu farw’n ddiweddarach.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 9.05yb ddydd Llun, Mai 16, ar yr A467 ger y Tŷ Du (Rogerstone).

Lori Scania 40 tunnell yn cludo nwyddau a lori Scania tipio oedd y ddau gerbyd arall.

Mae swyddogion yr heddlu yn parhau â’u hymchwiliadau i’r digwyddiad ac yn apelio ar unrhyw dystion sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 89  – 16/5/16.