Llun: Y Cynulliad Cenedlaethol
Fe fydd canlyniadau trafodaethau Llafur a Phlaid Cymru tros ethol Prif Weinidog i Gymru yn cael eu cyflwyno gerbron Aelodau Cynulliad y ddwy blaid heddiw.
Daw hyn wedi trafodaethau dros y dyddiau diwethaf, a hynny wedi i Carwyn Jones fethu â sicrhau digon o bleidleisiau yn erbyn Leanne Wood i gael ei ethol yn Brif Weinidog yn y siambr ddydd Mercher diwethaf.
Er hyn, mae datganiad ar y cyd rhwng y ddwy blaid yn nodi fod y “trafodaethau rhwng cynrychiolwyr Llafur a Phlaid Cymru wedi dod i ben bellach, a bod cynnydd da wedi’i wneud.”
Yn dilyn cyflwyno’r cynigion i aelodau’r ddwy blaid heddiw, mae disgwyl y bydd y Cynulliad llawn yn cael ei ail-alw yfory (dydd Mercher, Mai 18) er mwyn enwebu Prif Weinidog.
Mae’n rhaid i Aelodau Cynulliad ethol Prif Weinidog erbyn Mehefin 1 – o fewn pedair wythnos i’r etholiad – neu fe fydd rhaid cynnal etholiad arall.
Yn ôl adroddiadau, mae’n debyg bod cynrychiolwyr Llafur a Phlaid Cymru tynnu nol o raglen wleidyddol ITV Sharp End neithiwr wrth i’w trafodaethau barhau, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo’r pleidiau o ddiffyg rhyddid barn ymhlith eu meinciau cefn.