Cynog Dafis Llun: Y Lolfa
Yn dilyn ymgyrch etholiadol tanllyd rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a Phlaid Cymru yng Ngheredigion, mae un o fawrion y Blaid wedi ysgrifennu at arweinydd y Democratiaid yn eu cyhuddo o ledaenu “anwiredd”.
Mewn llythyr at Mark Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae Cynog Dafis, cyn-Aelod Seneddol Ceredigion, yn dweud bod y blaid wedi “camliwio” a dweud “anwireddau” am bolisïau Plaid Cymru yn yr wythnosau cyn etholiadau’r Cynulliad.
“Yn yr ymgyrch eleni… cyrhaeddodd y rhyferthwy negyddol ar Blaid Cymru anterth – neu ddyfnderoedd – newydd,” meddai.
‘Camliwio polisi’
Cyn yr etholiad, cafodd papur newydd ei ddosbarthu at etholwyr Ceredigion gan y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn honni y byddai cynlluniau treth cyngor Plaid Cymru yn “arwain at 10,000 o aelwydydd ledled Ceredigion yn talu hyd at £1,000 ychwanegol bob blwyddyn”.
Yn ôl Cynog Dafis, roedd honiad y blaid yn “camliwio’r polisi hwn yn gyfan gwbl” gan “na fyddai’r (£1,000) yn berthnasol ond i leiafrif pitw o dai drudfawr iawn.”
“Lluniwyd eich taflen ‘Eich Bil’ dwyllodrus, a bostiwyd i filoedd o gartrefi, er mwyn codi braw ar y darllenwyr, a thebyg iddi lwyddo yn achos unigolion bregus neu argraffadwy,” meddai yn ei lythyr.
Ar y pryd, fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol amddiffyn cynnwys eu papur newydd, gan honni y byddai dros 12,000 o dai yn gweld cynnydd yn y dreth.
Ond mae sawl agwedd arall ar ymgyrch y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion wedi cythruddo Cynog Dafis.
Mae hefyd yn lladd ar y blaid am ymosod ar doriadau Cyngor Ceredigion, gan ddweud mai “gostyngiad anferth mewn gwario cyhoeddus gan Lywodraeth Geidwadol-Dems Rhydd” Prydain sydd ar fai.
Ac fe wnaeth gyhuddo’r Democratiaid Rhyddfrydol o feirniadu Cyngor Ceredigion am gau ysgolion bach, gan mai ‘aelod cabinet Dem Rhydd’ yn y weinyddiaeth flaenorol wnaeth ddechrau ar y rhaglen.
“Anwiredd digywilydd”
Dywedodd hefyd mai “anwiredd digywilydd oedd honiad Elizabeth Evans (ymgeisydd y blaid yng Ngheredigion) bod Plaid Cymru ‘am redeg… ein holl wasanaethau iechyd o Gaerdydd’ – celwydd yw’r gair priodol”.
Yn ôl Cynog Dafis, byddai polisi ei blaid o integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal yn effeithio Ysbytai Ardal Cyffredinol yn unig, gan “alluogi dynesiad strategol a fyddai o fantais wirioneddol i Ysbyty Bronglais Aberystwyth”.
Her i’r Democratiaid Rhyddfrydol
Fe alwodd ar Mark Williams i achub “enw drwg ei blaid” a chamu yn ôl o “ymgyrchu negyddol, cyfleoliaeth a chamliwio.”
“Os llwyddwch chi, dyw hi ddim yn amhosibl y gall eich plaid, etifeddion o leiaf mewn enw i draddodiad gwych Rhyddfrydiaeth radical Gymreig, gyfrannu’n adeiladol eto i fywyd gwleidyddol y genedl.”
Elin Jones AC Plaid Cymru yng Ngheredigion gafodd ei hail-ethol i’r sedd.
‘Parchu’ penderfyniad
Wrth ymateb i’r llythyr dywedodd Mark Williams AS: “Efallai fod Mr Dafis am barhau gydag ymgyrch yr etholiad, fodd bynnag, mae’r etholaeth wedi gwneud eu penderfyniad – un dwi i’n parchu’n llwyr – a dwi wedi llongyfarch Ms Elin Jones ar ei buddugoliaeth, fel mae fy nghyd-weithiwr, Elizabeth Evans wedi gwneud.”