Bu farw Gwyn Thomas fis diwethaf yn 79 oed
Bydd rhaglen radio ddydd Sul yn talu teyrnged i’r bardd a’r academydd, yr Athro Gwyn Thomas, fu farw fis diwethaf yn 79 oed.

Dei Tomos fydd yn cyflwyno’r rhaglen sy’n cael ei darlledu am 5.30 brynhawn dydd Sul, ac mae Eigra Lewis Roberts, Derec Llwyd Morgan a Bruce Griffiths ymhlith y rhai a fydd yn talu teyrnged iddo.

Bu Gwyn Thomas yn Athro yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor am lawer o flynyddoedd, cyn dod yn bennaeth ar yr adran honno.

Cafodd ei benodi’n Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2006.

Roedd yn awdur toreithiog, gyda’i gasgliad o gyfrolau barddoniaeth, dramâu a llyfrau ysgolheictod.

Fe ysgrifennodd ei hunangofiant, Bywyd Bach, yn 2006, yn rhan o Gyfres y Cewri ac un o’i gyfrolau diwetha’oedd Llyfr Gwyn – hunangofiant llenyddol.