Golygydd llyfrau o Lundain a
Degfed flwyddyn y gystadleuaeth sy'n gwobrwyo cyfrolau newydd
ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth flynyddol Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn Abertawe ddydd Sadwrn.

£30,000 oedd y wobr a gafodd ei dyfarnu i Max Porter yn negfed flwyddyn y gystadleuaeth ac ar Ddiwrnod Cenedlaethol Dylan Thomas, a hynny am ei gyfrol ‘Grief is the Thing with Feathers’ (Faber & Faber).

Mae’r gyfrol hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr Cyntaf y Guardian.

Mae’r gystadleuaeth, sydd wedi’i threfnu ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, yn agored i awduron o dan 39 oed ar gyfer cyfrol nad yw wedi’i chyhoeddi eisoes.

Hon yw gyfrol gyntaf Porter, sy’n olygydd gyda chwmni cyhoeddi Granta and Portobella Books.

Cafodd yr awdur ei ysbrydoli gan y bardd Ted Hughes, ac mae’r gyfrol yn trafod galar wrth i ddau fachgen golli eu mam yn sydyn.

Roedd Porter yntau’n fachgen ifanc pan gollodd ei dad.

Y beirniaid eleni oedd yr Athro Dai Smith, yr awdures Sarah Hall, y bardd yr Athro Kurt Heinzelman, y cyfarwyddwr ffilm a theatr Phyllida Lloyd, yr awdures Kamila Shamsie a’r awdur, bardd a dramodydd yr Athro Owen Shears.

Dywedodd yr Athro Dai Smith fod y beirniaid yn “falch” o weld cyfrol Max Porter yn ennill y gystadleuaeth.