Joe Woolford o Ruthun yn cynrychioli'r DU fel rhan o ddeuawd
Roedd hi’n noson siomedig i’r Cymro Joe Woolford yn Stockholm nos Sadwrn yng nghystadleuaeth Eurovision.
Gorffennodd Joe a Jake, oedd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig, yn 24ain allan o 26 gyda’u cân ‘You’re Not Alone’ gyda 62 o bwyntiau.
Yr Wcráin oedd yn fuddugol gyda’r gân wleidyddol ‘1944’, a phlediodd y gantores Jamala am “heddwch a chariad” wrth iddi gael ei choroni ar ddiwedd y noson.
Hi yw’r enillydd cyntaf o dras Tatar, a dydy hi ddim wedi bod yn ei mamwlad ers i Rwsia gipio grym dros y Crimea yn 2014.
Thema’r gân oedd Stalin, y Crimea a glanhau ethnig.
Awstralia oedd yn ail, a Rwsia’n drydydd.
Awstralia oedd ar y blaen yn dilyn pleidlais y beirniaid, ond cawson nhw eu curo gan yr Wcráin ar ôl cyfri’r bleidlais gyhoeddus.
‘Profiad gorau’n bywydau’
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, dywedodd Joe a Jake eu bod nhw wedi cael “profiad gorau” eu bywydau, gan longyfarch Jamala ar ei buddugoliaeth.
“Ry’n ni wedi cael profiad gorau’n bywydau wrth berfformio ar lwyfan mor enfawr o flaen cynifer o bobol, byddwn ni’n cofio’r foment hon yn annwyl am byth.
“Gwnaeth y cyhoedd Prydeinig ein dewis ni i’w cynrychioli nhw ac fe wnaethon ni ymroi’n llwyr, a gobeithio ein bod ni wedi’u gwneud nhw’n falch.”
Yn ystod cân rhif naw, talodd y sylwebydd teledu Graham Norton deyrnged i’w ragflaenydd Syr Terry Wogan, fu farw ym mis Ionawr.
Wrth roi cyngor i’w olynydd, dywedodd Norton fod Wogan wedi dweud wrtho am “beidio yfed” cyn y nawfed cân.
Rhoddodd Wogan y gorau i gyflwyno’r gystadleuaeth yn 2009.
Dywedodd Norton: “Wyth mlynedd yn ôl pan o’n i’n ddigon ffodus i gael y swydd hon fel sylwebydd, fe wnaeth Syr Terry, yn garedig iawn ac yn raslon iawn, fy ffonio a’r unig gyngor oedd gyda fe i fi oedd ‘Paid cael diod cyn cân rhif naw’. Wel, dyma gân rhif naw.”
Ychwanegodd Norton mai Wogan “oedd ac yw llais Eurovision”.