Yn dilyn cyfarfod heddiw rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur i ddatrys yr anghytuno ynghylch ethol Prif Weinidog, mae’r ddwy ochr wedi rhyddhau datganiad yn nodi fod y trafodaethau wedi bod yn ‘hynod ddefnyddiol’.
Bu Simon Thomas yn cynrychioli Plaid Cymru a Jane Hutt yn cynrychioli’r Blaid Lafur yn y cyfarfod.
Mae’r datganiad yn nodi: “Yr ydym wedi cael nifer o gyfarfodydd heddiw ac maent wedi bod yn hynod o ddefnyddiol. Yr ydym yn hyderus y gallwn ganfod ffordd ymlaen, gyda chanlyniad hynny yn golygu y bydd yna enwebiad llwyddiannus o brif weinidog yr wythnos nesaf.”
Ddechrau’r wythnos fe fethodd Carwyn Jones yn ei ymgais i gael ei ail-ethol yn Brif Weinidog Cymru, wedi i Ukip a’r Ceidwadwyr gefnogi Leanne Wood.
Roedd y Lib Dem Kirsty Williams wedi fotio dros Carwyn Jones, a’r si lawr yn y Bae yw ei bod hi am gael cynnig lle fel gweinidog yng nghabinet Llywodraeth Lafur, os ddaw honno i rym eto.
Ychwanegodd y ddwy blaid yn eu datganiad ar y cyd: “Fe fyddwn yn parhau weithio dros y penwythnos, ac am barhau gyda thrafodaethau ffurfiol ddydd Llun. Gan ei bod yn bwysig fod y trafodaethau hyn yn cael ei trin yn gyfrinachol, ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach hyd yma.”