Joe Woolford
Cymro Cymraeg o Sir Ddinbych fydd yn cynrychioli Prydain ar lwyfan yr Eurovision nos yfory, a hynny gyda 200 miliwn o bobl yn gwylio ar y teledu.

Bydd Joe Woolford, 21, o Ruthun a’i gyd-ganwr, Jake Shakeshaft, 20, o Stoke-on-Trent, yn perfformio eu cân, ‘You’re Not Alone’ ar lwyfan y gystadleuaeth enwog yn Stockholm.

Y tro diwethaf i’r Deyrnas Unedig ennill yn y gystadleuaeth oedd yn 1997, gyda’r gân ‘Love Shine A Light’, a gafodd ei pherfformio gan y grŵp Katrina and the Waves.

Eleni ni fydd Iwerddon yn rhan o’r hwyl, ar ôl i’w cynnig, gan Nicky Byrne, gynt o Westlife, fethu â sicrhau lle yn y rownd derfynol.

Chwifio’r Ddraig

Bydd pobol yn y gynulliedfa ar y noson sydd am gefnogi Joe â baner Cymru yn cael gwneud hynny wedi’r cwbl, ar ôl i drefnwyr y sioe wneud tro pedol ar y gwaharddiad ar faneri cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.