By Any Name (Tanabi)
Fe fydd Gwobrau Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin yn cael eu cynnal yn Llanelli nos Iau, ac mae’r ffilm ‘By Any Name’, a gafodd ei chynhyrchu gan Euros Jones-Evans o gwmni Tanabi yn Abertawe, wedi’i henwebu ar gyfer gwobr y Ffilm Nodwedd Orau.
Cafodd y ffilm ei sgrinio nos Fawrth yng Ngwesty Parc y Strade, ac mi fydd yn mynd ben-ben heno â ‘Granny of the Dead’ a ‘The Stranger’ am y wobr.
Ar ôl cael gweld y ffilm nos Fawrth – nifer ohonyn nhw am y tro cyntaf – dyma ymateb y cast a’r criw.
Euros Jones-Evans, Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Tanabi:
“Mae pawb i weld wedi mwynhau. Roedd 160 yna. Dyna oedd y prif bwrpas.
“O’n i’n eitha nerfus achos dim ond tri neu bedwar ohonon ni sy wedi’i weld o.
“Mae’r tîm yn dda a dwi’n teimlo’i fod o’n brosiect da yn y diwedd. Mae pawb yn meddwl bo ni’n deud celwydd ond o ran y gyllideb ac amser, argaeledd actorion a’r criw, wnaeth yr holl beth gymryd 16 diwrnod. Dyna’r 16 diwrnod caleta’ dwi erioed wedi’u cael. Ond dwi’n hapus iawn fod pobol wedi mwynhau.”
Katherine John, awdures y nofel ‘By Any Name’:
“Rwy’n hollol syfrdan. Do’n i ddim cweit yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Rwy’n gwybod fod y cast a’r criw wedi ymroi 150% wrth ffilmio, ond do’n i ddim yn disgwyl iddi fod mor wych.
“Dwi ddim yn llawn ofn nawr fel oeddwn i pan gerddais i i mewn trwy’r drysau.
“Ro’n i’n ofni ar ôl gweld cynifer o ‘epics’ Hollywood oherwydd y sglein sydd ar bethau. Ond roedd hon mor realistig. Roedd yr actorion, cyfarwyddo’r sgript a’r golygfeydd wedi plethu gan greu gwir ymdeimlad o Gymru, mae hynny’n bwysig iawn.
“Rwy wir yn credu bod awdur sgript yn ysgrifennu sgerbwd i’r actorion a’r criw gael cymryd drosodd. Byddai wedi bod yn drist pe bawn i wedi ceisio gosod fy stamp fy hun ar y peth.”
Cengiz Dervis, sy’n chwarae’r prif gymeriad John West:
“Rwy’n falch iawn, dros bawb. Roedd yn ymdrech tîm. Roedd y ffilm yn hyfryd. Rwy mor falch dros Katherine John gan ei bod wedi dod â’i gwaith hi’n fyw mewn ffordd bositif iawn.
“Rwy’n credu bod y gynulleidfa wedi mwynhau ac y bydd cynulleidfaoedd y dyfodol yn ei mwynhau. Roedd y sinematograffi’n wych.
“Y peth gorau yw’r daith, nid cyflawni nod, a’r hyn sy’n digwydd i chi ar y daith honno. Dyna sut ry’ch chi’n tyfu.
“I fi’n bersonol, mae’n fy ngyrru ymlaen gan ’mod i’n gallu gweld fy hun yn tyfu. Wnes i roi popeth i mewn i’r ffilm felly mae cael eistedd wedyn a dweud “Rwy’n falch iawn” yn destun balchder mawr.”
Samira Mohamed Ali, sy’n chwarae’r prif gymeriad Dr Elizabeth Santer:
“Mae’r ymateb wedi bod mor bositif. Wnaethon ni anfon oddeutu 200 o wahoddiadau allan a dywedodd pawb ‘Ie’ felly fe gawson ni dipyn o sioc! Fel arfer mae un neu ddau sy’n methu dod ond roedd yn llawn dop.
“Yn fwy na dim, roedden ni am wneud cyfiawnder â’r llyfr. A dyma ni wedi’i gwneud hi, ac mae hynny’n rhyfeddol.
“Mae Katherine John wedi bod yn anhygoel. Drwy gydol y daith, mae hi wedi bod yn rhoi cyngor a chymorth, a chefnogaeth yn fwy na dim. Nid yn unig y mae hi’n un o gysylltiadau Tanabi, ond mae hi hefyd yn ffrind nawr, a diolch yn fawr iawn iddi am hynny.
“Roedd achlysuron lle o’n i’n cuddio yn fy sedd ond mae’n adlewyrchu arna i a neb arall gan ’mod i’n teimlo embaras o weld fy hun ar y sgrîn.
“Mae cael gweld y cyfan yn dod yn fyw yn gwneud i fi deimlo’n emosiynol.
“Beth bynnag sy’n digwydd nos Iau, rwy’n dymuno pob lwc i bawb.”
Roy Noble, sydd â rhan fach yn y ffilm:
“Joies i’r ffilm, ond y prawf mwyaf yw a ydyw ‘ngwraig i wedi mwynhau’r ffilm. Achos nag yw ‘ngwraig yn lico ffilmie o’r math yna gyda soldiwrs a lle mae stori o dan stori. Dyw hi ddim yn hoffi nhw, mae’n mynd i’r gwely! Ond o’dd hi wedi mwynhau.
“A rhaid i fi ddweud, rwy’n llongyfarch Katherine John.. neu Catrin Collier… neu Karen am fel o’dd hi wedi rhoi’r screenplay ma’s. O’dd e’n dda. A hefyd yr actorion.
O’dd Catrin wedi awgrymu bo fi’n neud cameo bach yn y dafarn. Wel, y ffi o’dd y peint ges i yn y dafarn. Ond wnes i fwynhau, chwarae teg. Mae ’na ddyfodol I fi…!
“Mae Bannau Brycheiniog i’w weld yn dda. Mae popeth sy’n dangos yr olygfa yn help ac yn rhoi hwb i broffil y wlad. Mae’n rhywbeth tebyg i ‘Hinterland’ hefyd yn ardal Aberystwyth.”