Atsain: Shaun Davey, Ken Thomas a Wynne Jones
Fe allai anthem answyddogol gan gyfansoddwr o Gastell-nedd fynd yr holl ffordd i Ffrainc gyda thîm pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw baratoi i chwarae ym Mhencampwriaethau Ewrop dros yr haf. Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers fu’n sgwrsio â’r cyfansoddwr Ken Thomas.
Gofynnwch i unrhyw gefnogwr tîm pêl-droed Lloegr, ac fe fyddai’n siŵr o allu enwi llu o ganeuon sydd wedi’u cysylltu â Chwpan y Byd neu Bencampwriaethau Ewrop ar hyd y blynyddoedd – a ‘Three Lions’, ‘World In Motion’ a ‘Back Home’ ymhlith yr amlycaf ohonyn nhw.
A Chymru yn yr anialwch o ran cystadlaethau rhyngwladol ers 1958, eleni yw’r tro cyntaf erioed y bu gennym anthem bêl-droed swyddogol ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol. Mae’r fideo sy’n cyd-fynd â’r gan ‘Together Stronger’ gan y Manic Street Preachers yn cael ei rhyddhau heddiw.
Ond mae cyfansoddwr o Gastell-nedd yn gobeithio clywed ei gân yntau’n cael ei chanu ar y terasau yn Ffrainc dros yr haf. Aeth Ken Thomas o Gastell-nedd, sy’n aelod o Gôr Cefnogwyr y Gweilch a’r band ‘Atsain’, ati i gyfansoddi ‘Da’n Gilydd (Dros y Byd)’ i godi arian at elusen Tŷ Hafan.
Teithiau dramor
Fel yr eglura Ken: “Daeth y cân o’r syniad bod y Cymry yn dod at ei gilydd, yn enwedig pan fod y tîm cenedlaethol yn whare.
“O’n i’n gwybod fod tîm Cymru wedi llwyddo i fynd trwyddo i whare yn Ffrainc, a daeth y syniad wrth siarad â ffrind.”
Mae Ken hefyd ynghlwm wrth elusen SOS Kit Aid, sy’n darparu cit chwaraeon i bobol ifainc yng ngwledydd Prydain a thramor, ac fe gafodd ei ysbrydoli gan ymweliad tîm rygbi o Fotswana i feddwl sut mae’r Cymry’n teimlo wrth fynd dramor.
“Fe drefnon ni i dîm [rygbi] o Botswana i ddod draw yn Chwefror y flwyddyn yma, a’r ffaith bo ni’n trafaelu dros y byd i gyd, o’n ni wedi gwneud rhywfaint o drafaelu’n hunain. O’n i’n siarad am y ffaith, lle bynnag y’ch chi, y’ch chi’n gwrando mas am yr acen a’i bod yn neis i glywed, a wedyn falle galw mas ‘Ble mae’r Cymry?’ a wastod yn cael ateb nôl.”
‘Ble mae’r Cymry?’
A’r cwestiwn hwnnw’n atseinio yn ei ben, mae’n ffurfio rhan o gytgân Ken sy’n cael ei llafarganu gan y côr.
“Pan bo chi bant yn trafaelu, y’ch chi’n teimlo hiraeth a’r ffaith bo chi mewn lle estron a bod eisie i chi alw ma’s ‘Ble mae’r Cymry?’ ac mae pobol yn dod at ei gilydd a dweud ‘Ni yw’r Cymry, da’n gilydd dros y byd’. Y’n ni’n gobeithio fydd e’n gytgân y bydd cefnogwyr yn gallu canu mewn ‘chant’.”
Cynhyrchydd y gân yw Andrew ‘Wal’ Coghlan, sydd wedi cydweithio â rhai o enwau mawr y byd cerddoriaeth, gan gynnwys Shakin’ Stevens, Meic Stevens a Cerys Matthews.
Cafodd y gân ei chynhyrchu yn stiwdio ‘Wal’, Bridgerow Studios yn Nyffryn Aman, ac roedd yn golygu bod cysylltiad teulu Ken â ‘Wal’ yn parhau.
“O’n i’n dishgwl am rywun i gynhyrchu’r record a phan weles i fod Andrew ‘Wal’ Coughlan yn cynhyrchu o hyd, o’n i’n gwybod shwd gynhyrchu da wnaeth e i record i’n fab ddeuddeg mlynedd yn ôl.
“Pan o’dd ei fand e wedi ennill cystadleuaeth lan yng ngŵyl ym Mhontardawe, aeth e mewn i’r stiwdio a ‘Wal’ o’dd yn cynhyrchu bryd ’ny.”
Tŷ Hafan
Mae Ken hefyd yn aelod o grŵp ‘Swyno’r Sêr’ o Ystradgynlais sy’n codi arian at elusen Tŷ Hafan ac elusennau canser eraill, ac am y rheswm hwnnw y penderfynodd y byddai’r elw o ‘Da’n Gilydd (Dros y Byd)’ yn mynd at Dŷ Hafan.
“Ni’n grŵp sy’n trio dodi cerddoriaeth a’r Gymraeg gyda’i gilydd. Ni wedi casglu dros £18,000 o bunnoedd. Tŷ Hafan ac Ymchwil Cancr Cymru yw’r ddwy elusen y’n ni’n casglu arian tuag atyn nhw, a fi wedi penderfynu taw Tŷ Hafan fydd hwn.”
Atsain
Fel cerddor, mae Ken hefyd yn aelod o’r band ‘Atsain’ ynghyd â dau aelod o’r côr a dau ddysgwr Cymraeg, Wynne Jones a Shaun Davey. Wedi’i ysbrydoli gan ymdrechion ei ffrindiau i ddysgu’r iaith, penderfynodd Ken ehangu gorwelion y band a dechrau perfformio yn Gymraeg sydd, yn ôl Ken, “wedi gweithio ma’s yn lled dda”.
Ychwanegodd: “Mae tudalen gweplyfr (Facebook) gyda ni, ‘Atsain Cymru’. O fynna, byddwch chi’n gallu mynd a lawrlwytho. Fi wedi ffeindio gwefan lle bydd yr arian i gyd yn gallu cael ei ddodi i mewn i elusen Tŷ Hafan.”
Sut siâp fydd ar dîm Cymru allan yn Ffrainc, yn ôl Ken, tybed?
“Ar ôl i Gaerlŷr wneud mor dda yn yr Uwch Gynghrair, gobeithio ewn ni drwyddo i’r ffeinal!”
Mae’r gân ar gael i’w lawrlwytho drwy fynd i wefan Atsain Cymru.