Gŵyl Rhif 6, Portmeirion Llun: Gwenllian Elias
Mae un o ddigwyddiadau mwyaf gogledd Cymru, Gŵyl Rhif 6, wedi cyhoeddi bod nifer cyfyngedig o docynnau lleol ar gael i bobol yng Ngwynedd.

Mae’r ŵyl yn gobeithio denu tua 15,000 o bobol i Bortmeirion eleni rhwng 1 a 4 Medi ac fe all pobol leol brynu tocynnau am bris gostyngedig.

£135 yn lle £170 yw’r tâl i drigolion sy’n oedolion, am docyn penwythnos, heb wersylla. I bobol ifanc rhwng 11 a 15 oed, mae’n £86.50 yn lle £110.

Mae’r tocynnau lleol ar gael i bobol sy’n byw yn ardaloedd cod post, LL41, LL46, LL47, LL48, LL49, LL51 a LL52.

Bydd rhaid i bobol sydd am gael tocyn fynd i Ganolfan Wybodaeth Portmeirion, gan ddod â thystiolaeth eu bod yn byw yn yr ardal. Mae tocynnau i blant dan 10 am ddim, ond bydd rhaid archebu.

Artistiaid

Mae artistiaid Cymraeg yr ŵyl eleni’n cynnwys Meic Stevens, Cowbois Rhos Botwnnog, Sŵnami, Palenco, HMS Morris ac Ysgol Sul.

Y prif artistiaid sy’n chwarae yw  Super Furry Animals, Noel Gallagher’s High Flying Birds, Hot Chip, Bastille a Temples.

Yn y rhaglen gelfyddydau a diwylliant, Catrin Finch, Irvine Welsh a Shaun Ryder, yw rhai o’r enwau sydd ar y rhestr.